Covid-19: 98 o achosion positif yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna 98 yn rhagor o achosion positif o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru ond dim un farwolaeth, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r gyfradd o achosion positif ym mhob 100,000 o bobl wedi cynyddu, mae bellach yn 20.1 o'i gymharu â 18.4 gafodd ei adrodd ddydd Llun.
Dyma'r gyfradd uchaf ers 4 Ebrill.
Roedd 48 o'r 98 achos newydd yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
O'r rhain roedd 15 yn Sir Conwy, 14 yn Sir Ddinbych, wyth yn Sir y Fflint a saith yn Wrecsam.
Mae 26,251 yn rhagor o bobl wedi cael eu hail ddos o frechlyn, gan olygu bod cyfanswm o 1,410,924 o bobl (44.75% o'r boblogaeth) wedi cael cwrs llawn.
Mae 2,207 yn rhagor wedi cael eu dos cyntaf, gan olygu cyfanswm o 2,218,103 - dros 70% o'r boblogaeth.
Sir Conwy sydd â'r gyfradd uchaf o achosion positif, 57.2 am bob 100,000 o bobl, gyda Sir Ddinbych yn ail gyda 48.1.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021