Ysgol yn Sir Benfro yn cau i ddisgyblion oherwydd Covid
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol o 1,200 o ddisgyblion yn Sir Benfro wedi cau ei safle i fyfyrwyr fel "mesur rhagblaen" oherwydd pryderon Covid.
Bydd disgyblion Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-pysgod yn dychwelyd i ddysgu ar-lein o ddydd Llun.
Daw hynny oherwydd cynnydd yng nghyfradd yr achosion, ac yn nifer y rheiny sy'n gorfod hunan ynysu.
"Yn amlwg, mae ein hardal ni a'r ysgol yn rhan o'r darlun o ran y cynnydd yn y gyfradd," meddai'r pennaeth Raymond McGovern.
Gormod yn hunan ynysu
Ddydd Gwener fe rybuddiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod Cymru'n wynebu trydedd ton o achosion Covid.
Mae gan Sir Benfro'r gyfradd pumed uchaf yng Nghymru ymhlith pobl dan 25 oed - sef 55.2 am bob 100,000 yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gyda'r niferoedd oedd eisoes yn gorfod aros adref - gan gynnwys Blwyddyn 10 cyfan - doedd dim opsiwn meddai Mr McGovern.
Mae disgwyl i uned brofi symudol gael ei sefydlu yn y dref, ac mae'r ysgol yn gobeithio ailagor i ddisgyblion ar 28 Mehefin.
Yn y cyfamser bydd staff yn parhau i weithio o'r safle.
"Rydyn ni'n parhau i wneud popeth allwn ni fel ysgol i wyrdroi'r ffigyrau yma a lleihau'r effaith ar iechyd pobl," ychwanegodd y pennaeth.