Ail-greu'r cysylltiad Celtaidd: Barn pobl ifanc Cymru ac Iwerddon
- Cyhoeddwyd
"Mae'n ieithoedd ni'n debyg ond rhywle lawr y lein fe wnaethon ni golli cysylltiad, sy'n gwneud imi deimlo dipyn bach yn drist."
Er mai darn o fôr a thaith fer mewn fferi sydd rhwng Cymru ac Iwerddon, dwy wlad ar gyrion gorllewinol Ewrop sy'n rhannu hanes hir â'r un tarddiad Celtaidd i'n hiaith a'n diwylliant, faint o gyswllt sydd rhyngon ni heddiw a faint rydyn ni'n ei wybod am ein gilydd?
Dyna mae Cymru Fyw wedi ei ofyn i rai o'r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan mewn prosiect cerddorol arbennig rhwng mudiad yr Urdd yng Nghymru a TG Lurgan yn Iwerddon.
Mae'r fideos Cymraeg a Gwyddeleg i Blinded by the Light (Golau'n Dallu/Dallta ag na Soilse) a Gwenwyn/Nimhneach wedi eu gweld filoedd o weithiau ar YouTube ac mae cân arall ar y gweill hefyd.
Y bwriad yw cyflwyno'r ddwy iaith leiafrifol i gynulleidfa fyd-eang a ffurfio partneriaeth rhwng y ddwy wlad er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ffynnu drwy gyfrwng eu hieithoedd cynhenid.
Mae sgwrsio gyda Grace a Cian o Iwerddon, a Rhys, Deryn ac Owain-Rhys o Gymru yn dangos bod 'na fwlch mawr yn ein hadnabyddiaeth o'n gilydd, ond bod 'na frwdfrydedd dros greu mwy o gysylltiad rhwng yr ieithoedd Celtaidd...
Grace Willis, 19, o Drogheda, Swydd Louth, Iwerddon
"Ychydig iawn ro'n i'n ei wybod am yr iaith Gymraeg cynt," meddai Grace.
"Dydi o ddim yn rhywbeth fyddwn i wedi cael unrhyw gysylltiad na chwilfrydedd amdano yn fy mywyd bob dydd.
"Ar ôl y digwyddiad lansio, aeth y myfyrwyr Cymreig a Gwyddelig allan i swper ac fe gawson ni gyfle i eistedd i lawr a siarad go iawn. Dim ond wedyn wnaethon ni ddechrau gweld y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng ein dwy iaith a'n dau ddiwylliant.
"Dwi'n credu ei bod bob amser yn dda cael cysylltiadau positif a chyfeillgar gyda gwledydd eraill. Mae'n helpu i wneud pobl yn llai trahaus a chreu dealltwriaeth rhwng dau bobl. Yn y sefyllfa yma dwi'n teimlo ei fod hyd yn oed yn fwy positif i greu'r cyswllt a'r bond rhwng ein gwledydd gan fod gennym ni gymaint yn gyffredin o ran ein iaith a'n treftadaeth.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Heb fynd yn rhy ddwfn, dwi'n credu bod yr iaith a'r diwylliant Cymraeg yn brydferth. Mae'n adlewyrchu ein hiaith a'n diwylliant ni yma yn Iwerddon. Mae hunaniaeth yn rhywbeth na allwch ei weld ac mae diwylliant yn rhywbeth na allwn adael iddo fynd i gysgu.
"Mae'r iaith a'r diwylliant yn rhywbeth i fod yn falch ohono, mae'r peth mwyaf gwerthfawr y gallwn ei etifeddu, ei ddysgu a'i basio i'n plant. Hebddo, rydyn ni'n anghofio pwy ydyn ni, o ble rydyn ni wedi dod, a beth roedd rhaid i ni ei wneud i ymgorffori ein hunaniaeth. Mae'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, er bod y boblogaeth yn fach, yn haeddu gymaint o barch a chydnabyddiaeth ag unrhyw iaith a diwylliant arall."
Rhys James, 17, o Abertawe, Cymru
"O'n i'n gwybod bod Gwyddeleg yn eitha' tebyg i'r Gymraeg oherwydd eu bod nhw'n ieithoedd Celtaidd ond o'n i ddim yn gwybod llawer. Oherwydd pethau dwi wedi ei weld yn y cyfryngau o'n i'n meddwl falle bod y bobl oedd yn dal yn ei siarad yn niferoedd bach ac yn yr ardaloedd sydd efo diwylliant cryf.
"Ond ers gwneud y prosiect, ac yn enwedig ar ôl gweld y fideo, mae'n ymddangos eu bod yn union fel ni! Mae'n nhw'n siarad iaith mae'n nhw'n ei charu ac yn ei defnyddio mewn ffordd maen nhw'n ei garu a does dim barrier, dim gwahaniaeth enfawr rhwng Cymru ac Iwerddon o ran bod pobl yn siarad iaith maen nhw wedi bod yn ei siarad am ganrifoedd, ac yn ei defnyddio i gael bach o hwyl.
"Mae'n siom nad o'n i'n gwybod mwy am Iwerddon. Mae'n dda iawn i gael y ddwy wlad yma efo ein strygl efo'n ieithoedd i gymdeithasu efo'i gilydd a gwneud prosiectau efo'i gilydd i ddangos pa mor debyg ydyn ni.
"Dwi o blaid y syniad o annibyniaeth so rhywbeth dwi'n caru am Iwerddon yw ei annibyniaeth, dim jyst yn wleidyddol ond mae'n araf yn dringo nôl i ble oedden nhw efo'u hiaith a'u diwylliant ac mae'n nhw'n hapus i ddangos hynny i'r byd a cymryd shwt falchder yn eu hanes a'u diwylliant.
"Yr un balchder â sydd yng Nghymru, ond maen nhw'n hapus i'w ddangos e i bawb a'i wneud yn elfen ganolog i'w gwlad. Er bod diwylliant cryf efo ni yng Nghymru, chi'n mynd i lefydd mawr fel Abertawe a Chaerdydd, a does dim byd i wahanu ni oddi wrth Lloegr a'r Alban."
Cian Mac Gearailt, 19, o Portlaoise, Swydd Laois, Iwerddon
"Ro'n i'n meddwl ei fod yn gyfle gwych i ddathlu diwylliant Iwerddon a Chymru sydd yn debycach na fyddech chi'n meddwl!
"Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am yr iaith Gymraeg cyn y prosiect ond pan ges i'r cyfle i gyfarfod y perfformwyr a'r cynrychiolwyr, fe wnaeth eu brwdfrydedd dros sicrhau bod yr ieithoedd arbennig yma yn byw wneud gymaint o argraff arna i.
"Dwi yn gweld tebygrwydd yn sefyllfa'r ddwy iaith. Dwi'n teimlo bod gennym ni yr un amcan i wneud yn siŵr fod na le i'n ieithoedd ni yn ein dyfodol i sicrhau nad ydyn ni'n colli golwg ar ble rydyn ni wedi dod ohono a phwysigrwydd ein hunaniaeth ddiwylliannol.
"Mae mor bwysig ein bod ni'n cofleidio diwylliannau gwledydd eraill a dysgu i barchu hunaniaeth ein gilydd.
"Doeddwn i ddim yn gwybod lot am Gymru cyn cyfarfod y myfyrwyr o Gymru ddaeth i ymweld ag Iwerddon. Mae gan y naill a'r llall ohonon ni yr un nod, a dwi'n credu ei fod yn nod aruchel i gynyddu lleisiau'r ifanc sydd eisiau i'w iaith a'u diwylliant gael ei gofleidio gan bawb."
Deryn Allen-Dyer, 16, o Ferthyr Tudful, Cymru
Er iddi fynd i ysgol gynradd Gymraeg pan oedd hi'n iau, symudodd teulu Deryn i Fanceinion am gyfnod, a'i hunig gyswllt gyda'r Gymraeg oedd drwy fod yn aelod o'r Urdd. Erbyn hyn mae'r teulu yn ôl yn byw ym Merthyr ac mae'r Urdd yn dal yn hollbwysig o ran rhoi'r cyfle i Deryn ddefnyddio a mwynhau'r Gymraeg gan nad ydi hi'n cael ei haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe neidiodd ar y cyfle i fod yn rhan o'r prosiect.
"Roedd yn ffordd wych o ddod â'r ddau ddiwylliant Celtaidd at ei gilydd. Mae'r diwylliannau Celtaidd yn cael eu hanwybyddu yn aml iawn felly roedd gallu helpu i ddod â nhw at ei gilydd a'u clywed nhw yn grêt.
"Roedd clywed Gwyddeleg yn ddiddorol iawn. Ro'n i'n gwybod bod gan y wlad ei iaith ei hun ond do'n i ddim yn gwybod llawer amdano fe. Fi'n gwybod ei fod tipyn bach yn wahanol i Gymraeg ond roedd yn debyg mewn rhai ffyrdd hefyd.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Roedd yn anhygoel i wrando arno - roedd yn anhygoel achos roedd yn teimlo fel teulu mawr wedi dod nôl at ei gilydd.
"Mae ganddon ni'r heritage yma ac mae'n ieithoedd ni'n debyg ond rhywle lawr y lein fe wnaethon ni golli cysylltiad, sy'n gwneud imi deimlo dipyn bach yn drist.
"Mae Iwerddon a Gaeleg yn wlad a iaith mor anhygoel, mae lot o bobl yn gwybod am Iwerddon ond ddim gymaint am Gaeleg er eu bod yn gwybod am Gymraeg."
Owain-Rhys Perkins-Rudge, 18, o'r Barri, Cymru
Mae Owain-Rhys yn aelod o'r Urdd ers blynyddoedd ac wedi cael budd mawr o'r profiad o wirfoddoli gyda'r mudiad mewn eisteddfodau.
"Fi wedi dysgu bod yr iaith Gymraeg a'r iaith Wyddeleg ddim yn swnio'n debyg o gwbl!
"Mae'n neis gweld aelodau TG Lurgan yn cymryd rhan - er nad oedden nhw'n deall beth oedden ni'n ddweud mae'n neis bod ni'n gallu cymryd rhan a chymryd ein bod yn deall ein gilydd!
"O'n i'n gwybod dim byd am y wlad na'r iaith cynt. Ond dwi wedi dysgu am Iwerddon nawr."
Wedi dysgu mwy mae Owain yn credu y byddai'n syniad da gwneud llawer mwy o gyswllt rhwng pobl ifanc y ddwy wlad.
"Mae'r Urdd yn gwneud tripiau i Batagonia, pam ddim trefnu ein bod ni'n gallu mynd fel grŵp i Iwerddon a dod i adnabod y criw a'r iaith yno yn well a chael mwy o gysylltiad rhwng y ddwy wlad?
"Bydden ni'n gallu mynd i Iwerddon i weld y criw o bobl ifanc oedd yn rhan o hwn a dysgu mwy am y wlad a falle dysgu ychydig o'r iaith."
Hefyd o ddiddordeb: