Y bêl a groesodd y môr o Iwerddon i Gymru

  • Cyhoeddwyd
aline
Disgrifiad o’r llun,

Y bêl a deithiodd dros y môr ac Aline Denton

Ar ddydd Sul 17 Ionawr roedd Aline Denton, sy'n byw yn Llanrhystud, yn gwneud yr hyn yr oedd hi'n arfer ei wneud ar benwythnosau - cerdded ar lan y môr a mwynhau golygfeydd godidog arfordir Ceredigion.

"Yn aml iawn fydda' i'n mynd â bag efo fi er mwyn casglu sbwriel - pan 'da ni ddim o dan yr amodau presennol dwi'n gwirfoddoli gyda'r Ymddiriedolaethau Natur yn ne a gorllewin Cymru yn fy amser sbâr, a 'da ni'n glanhau traethau'r gorllewin."

Pêl ymysg y sbwriel

Mae Aline wedi hen arfer ffeindio pob math o bethau wrth glirio sbwriel:

"Fydda i wethiau'n ffeindio pacedi bwyd a crêtiau pysgod sydd wedi dod drosodd o Iwerddon - sy'n dangos pa mor gyflym mae pethau'n gallu symud yn y môr, a pan mae sbwriel yn cael ei daflu mae'n gallu troi lan yn unrhyw le a gwneud niwed i fywyd gwyllt."

Ond darganfyddiad gwahanol y daeth hi ar ei draws y tro yma.

"Roedd yna bêl ar yr cerrig ar lan y môr. O'n i am ei rhoi yn y bag sbwriel ac yna fe wnes i sylwi bod enw Aoife arni, wedi ei sgwennu 'da llaw."

Ffynhonnell y llun, Aline Denton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bêl ei darganfod yn Llanrhystud

"Roedd hi'n amlwg wedi dod o Iwerddon achos roedd logo'r GAA (Cymdeithas Athletau Gwyddelig) arni.

"Wnes i ei roi ar fy nghyfrif Facebook personol i, jest o ran diddordeb i ddweud gwir a meddwl faint o amser oedd wedi cymryd i deithio i Gymru, ac o le yn Iwerddon y daeth."

Ffynhonnell y llun, Aline Denton
Disgrifiad o’r llun,

Y bêl sy'n golygu llawer i Aoife yn Waterford

Ond fe ddangosodd y cyfryngau cymdeithasol ei werth ar yr achlysur yma.

"Fe wnaeth ffrind i mi yn Iwerddon ei rannu ar dudalen Facebook y GAA - ac aeth pethau'n wyllt wedyn!"

'Wedi diflannu yn Waterford'

Bellach mae dros 8,100 o ddefnyddwyr Facebook wedi rhannu llun a sylwadau Aline mewn llai na diwrnod, gyda miloedd mwy wedi ei 'hoffi'.

"O'n i wedi fy synnu faint o bobl oedd wedi 'hoffi' a rhannu beth oeddwn i wedi sgwennu. Bedair awr yn ddiweddarach fe atebodd tad Aoife gan ddweud ei fod wedi gweld beth wnes i sgwennu. Roedd pêl Aoife wedi diflannu saith diwrnod yn ôl o ardal Waterford."

Ffynhonnell y llun, facebook
Disgrifiad o’r llun,

Sylwadau Ruairi, tad Aoife, yn diolch i Aline ar Facebook

"Roedd e'n wych i glywed ganddo, ac i glywed pa mor hapus oedd Aoife i weld llun o'i phêl yng Nghymru pan oedd hi'n meddwl ei bod wedi ei golli am byth.

"Gan ein bod ni methu teithio ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod y bêl yma wedi teithio mwy o filltiroedd dros yr wythnos diwetha' na mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi gwneud yn ystod y cyfnod clo cyfan! Dwi'n bwriadu postio'r bêl yn ôl iddi."

Hefyd o ddiddordeb: