Plentyn 11 fu farw o diabetes 'wedi bod yn sâl ers tro'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Kayden HallFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kayden Hall yn yr Ysbyty Athrofaol ym Mehefin 2020

Clywodd cwest i farwolaeth bachgen 11 oed o Gwmbrân ei fod wedi marw o diabetes ond nad oedd wedi cael diagnosis o'r cyflwr er ei fod wedi bod yn sâl "am beth amser".

Bu farw Kayden Hall yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar 5 Mehefin o ketoacidosis diabetig - cyflwr peryglus sy'n digwydd pan nad yw claf wedi cael diagnosis o diabetes a lle mae'r insulin yn y corff yn prinhau.

Clywodd y cwest ei fod yn "fachgen disglair" a phoblogaidd.

Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, nad yw "arwyddion o'r cyflwr yn amlwg" ac fe gofnododd bod y bachgen wedi marw o achosion naturiol.

Ond fe fynegodd bryderon am fynediad i wasanaethau meddygol yn ystod y pandemig - gan ddweud nad oedd digon o sylw wedi bod i'w hargaeledd.

Fe ddaeth ei sylwadau wedi i dystiolaeth mam Kayden, Melanie Hall, awgrymu nad oedd hi'n credu y byddai'n bosib i'w mab gael apwyntiad oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Mewn datganiad a wnaeth Ms Hall i'r heddlu, clywodd y llys bod Kayden yn hynod o wan ar 1 Mehefin ac yn cael trafferth cerdded i'r toiled.

Yn ystod y dyddiau wedi hynny clywyd nad oedd e'n bwyta fawr ddim a'i fod yn chwydu'n aml.

Ar ddydd Iau 4 Mehefin, clywodd y llys ei bod wedi galw'r gwasanaethau brys wedi iddi fethu â dihuno ei mab.

Yr adeg honno fe ddywedodd Ms Hall wrth blismyn ei bod yn credu "na fyddai ei mab fyth wedi cael apwyntiad meddygol gan nad oedd ganddo dymheredd uchel".

Nododd datganiad gan ymgynghorydd gofal dwys yn yr ysbyty Dr Anna Barrow bod lefelau glwcos Kayden pan gyrhaeddodd yn 50 - 5 yw'r lefel arferol.

Bu farw ym mreichiau ei fam yn yr ysbyty wedi iddo gael "anaf nad oedd modd ei oroesi" ar ei ymennydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Clywodd y llys ymhellach ei fod, mae'n debyg, wedi bod yn byw â chyflwr diabetes ers tro ond nad oedd yna symptomau difrifol tan ychydig ddiwrnodau cyn ei farwolaeth.

Cadarnhaodd Sara Davies, swyddog ymgysylltu teuluol o ysgol gynradd Kayden, ei bod wedi ymweld â'r teulu bob wythnos yn ystod y pandemig ac nad oedd hi wedi gweld "unrhyw arwyddion" o salwch.

Wrth gloi'r cwest dywedodd y Crwner Caroline Saunders "nad oedd Kayden wedi cael diagnosis o ddiabetes a'i fod wedi marw o effeithiau ketoacidosis diabetig".

Cofnodwyd ei fod wedi marw o achosion naturiol a dywedodd y crwner ei bod yn "cydymdeimlo'n fawr gyda'i deulu".

Pynciau cysylltiedig