Cyn-reolwr Cymru, Mike Smith wedi marw yn 83 oed
- Cyhoeddwyd
Bu farw Mike Smith, y person cyntaf o'r tu allan i Gymru i reoli'r tîm pêl-droed cenedlaethol, yn 83 oed.
Yn enedigol o Hendon, bu'n chwaraewr amatur gyda chlwb Corinthian Casuals cyn dechrau gweithio yng Nghymru.
Cafodd ei benodi'n gyfarwyddwr hyfforddi i ddechrau gyda chyfrifoldeb am y timau ieuenctid, cyn cael swydd rheolwr y tîm cyntaf yn 1974.
Ef oedd wrth y llyw pan aeth Cymru i wyth olaf Pencampwriaeth Ewrop - oedd â fformat gwahanol bryd hynny - cyn colli gêm ddadleuol dros ben yn erbyn Iwgoslafia.
Ef hefyd oedd wrth y llyw mewn gêm ddadleuol arall pan gollodd Cymru yn erbyn Yr Alban yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 1978.
Wedi iddo adael yn 1979 bu'n rheolwr ar Yr Aifft gan eu harwain i ennill Cwpan Cenhedloedd Affrica - yr unig Brydeiniwr i gyflawni'r gamp fel hyfforddwr.
Dychwelodd i reoli Cymru eto am gyfnod rhwng 1994 ac 1995 yn dilyn ymadawiad disymwth John Toshack fel rheolwr, ac fe gafodd ei ganmol ar y pryd am godi safonau'r tîm cenedlaethol.
Rhwng y ddau gyfnod yna, bu'n ymgynghorydd pêl-droed ieuenctid ar Ynys Môn.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad: "Mae meddyliau pawb yn y Gymdeithas gyda theulu a ffrindiau Mike Smith yn yr amser trist yma."