Covid-19: Cymru'n cofnodi pedair marwolaeth yn rhagor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nyrsys uned gofal dwysFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi pedair marwolaeth yn rhagor yn ymwneud â Covid-19 yn y ffigyrau dyddiol diweddaraf.

Cafodd 824 o achosion newydd o coronafeirws eu cofnodi - cwymp arall mewn 24 awr - hyd at 09:00 fore Iau.

Mae'n golygu mai 240,843 yw cyfanswm yr achosion yng Nghymru ers dechrau'n pandemig a 5,610 yw cyfanswm y marwolaethau, yn ôl dull ICC o gofnodi.

Mae'r gyfradd achosion ar draws Cymru wedi gostwng eto i 152.7 ar gyfer pob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod.

Yn un pedair sir yn y gogledd sy'n parhau â'r cyfraddau uchaf, sef siroedd Dinbych (407.5), Conwy (309.7), Wrecsam (244.9) a'r Fflint (240.2)

A'r un pedair sir sydd â chyfradd is na 100 sy'n parhau ar waelod y tabl - Sir Gaerfyrddin (85.8), Blaenau Gwent (91.6), Gwynedd (93.1) a Phenfro (94.6).

33 o farwolaethau ers dechrau'r mis

O'r marwolaethau mwyaf diweddar, roedd dau wedi'u cofnodi ddydd Mawrth 27 Gorffennaf, un ddydd Llun 26 Gorffennaf a'r pedwerydd ar 13 Gorffennaf.

Mae'n golygu bod 33 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda'r feirws ers dechrau'r mis.

O'r achosion positif diweddaraf, roedd 227 wedi eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwadadr.

Mae 2,293,927 wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn Covid, gyda 2,047,616 wedi cael y cwrs llawn o ddau ddos.

Pynciau cysylltiedig