10 cwmni o Gymru ddim wedi talu isafswm cyflog
- Cyhoeddwyd
Dywed Llywodraeth y DU bod 10 cwmni yng Nghymru ddim wedi talu isafswm cyflog i'w gweithwyr.
Fe wnaeth y cwmnïau fethu â thalu cyfanswm o £78,000 i 171 o weithwyr o 2012-18.
Wedi ymchwiliad gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) bu'n rhaid i'r cwmnïau dalu'r hyn oedd yn ddyledus a £100,000 o ddirwyon.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn derbyn nad oedd peidio talu'n llawn yn fwriadol ond maent yn dweud mai cyfrifoldeb y cyflogwyr yw cydymffurfio â'r gyfraith.
Fe wnaeth y busnesau a aeth yn groes i'r rheolau:
Beidio talu staff am oriau ychwanegol;
Talu cyfraddau prentisiaeth anghywir;
Fethu â thalu cyfraddau isafswm newydd.
Dywed y Gweinidog Busnes Paul Scully "nad oes esgus am beidio talu digon i staff ac nad yw isafswm cyflog yn ddewisol".
Bydd penaethiaid na sydd wedi talu'r isafswm cyflog i staff yn gorfod talu gweithwyr ar y raddfa isafswm cyflog bresennol ac maent yn wynebu dirwyon o hyd at 200% o'r hyn sy'n ddyledus - ond ni fydd yn rhaid talu mwy na £20,000 y gweithiwr.
Ers 2015, mae'r llywodraeth wedi gofyn i gyflogwyr dalu dros £100m i filiwn o weithwyr.
Dywed y llywodraeth eu bod wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau gweithwyr a'u bod yn cyhoeddi enwau'r rhai na sydd wedi talu isafswm cyflog er mwyn dangos eu bod yn barod i weithredu.
Cwmnïau na sydd wedi talu
Millenium Care, o Gastell-nedd Port Talbot - ddim wedi talu £28,871.77 i 40 o weithwyr. Dywed y cyfarwyddwr Karen Egan nad oedd y cwmni yn gwbl ymwybodol o ofynion cyfreithiol ond eu bod bellach yn ufuddhau iddynt.
Cwmni Menai Meats, Caernarfon - ddim wedi talu £23,558.16 i 34 staff. Maent wedi cael cais am sylw.
7 to 10 Food and Wine, yng Nghaerdydd ddim wedi talu £9,573.74 a oedd yn ddyledus i ddau aelod o staff. Mae'r BBC wedi methu dod o hyd iddynt am sylw.
Mae Martin Francis yn gweithredu cwmni Minster Cleaning Services yng Nghaerdydd a doedd e ddim wedi talu £4,793.14 i 69 o bobl. Dywed bod y dull o dalu staff ar y pryd ddim wedi mynd yn groes i'r rheolau yn dechnegol a bod y mater bellach wedi cael ei ddatrys.
Chilton Motors yn Sir Benfro ddim wedi talu £4,171.87 i weithiwr. Mae'r cwmni wedi cael cais am sylw.
Bride Kebabs yn Sir Fôn ddim wedi talu £3,723.68 i ddau aelod o staff. Mae'r cwmni bellach wedi newid dwylo a dywed y rheolwr newydd, Omer Yalcin, eu bod yn dilyn y rheoliadau newydd.
DL Motors yn Abertawe ddim wedi talu £956.26 i un gweithiwr. Dywed y cyfarwyddwr Sarah Humphrey bod y cyfan wedi'i ddatrys yn fuan.
Teifi Tots yn Sir Gaerfyrddin ddim wedi talu £939.55 i 17 gweithiwr. Dywed Claire Thomas o'r cwmni nad oedd y staff wedi cael eu talu am "gwblhau cyrsiau a oedd yn rhan o'u cytundeb".
Automec Abertawe ddim wedi talu £892.12 i un gweithiwr. Daeth y cwmni i ben yn 2019.
JP Tod Commercials, Y Fenni, ddim wedi talu £559.73 i bedwar aelod o staff. Dywed y cyfarwyddwr Paul Tod nad oedd pobl wedi cael eu talu'n iawn pan oedd pennaeth y gyflogres yn sâl ond "ry'n yn gwneud ein gorau i lynu at y rheolau," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021