Fforio am fwyd am ddim ar draethau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Craig gyda sglefren fôrFfynhonnell y llun, Craig Evans
Disgrifiad o’r llun,

Craig ar draeth ym Mae Caerfyrddin gyda slefren fôr - mae'n debyg bod rhain yn cael eu bwyta mewn rhai rhannau o'r byd

Does dim rhaid mynd yn bell i gael y cynhwysion gorau ar gyfer y bwrdd bwyd yn ôl y fforiwr Craig Evans, sydd â miloedd yn dilyn ei fideos glan môr ar YouTube ac sydd wedi ymddangos ar raglen Cefn Gwlad, S4C.

Os ydych chi'n hoffi bwyd môr, mae 'na wledd i'w ddarganfod ar ein traethau meddai.

Ar ôl ichi wneud eich ymchwil i amseroedd y llanw, diogelwch ar eich traeth lleol a gwisgo esgidiau addas rhag pysgod bwyell (weever fish), dyma gyngor Craig i ddechreuwyr am bump peth gallech chi fynd i chwilio amdanyn nhw ar lanw isel.

Pump tip gan Craig Evans

1. Cocos (cockles)

Ffynhonnell y llun, Craig Evans

Dyma un o'r pethau mae Craig yn eu casglu amlaf. Eu casglu gyda'i dad yn y Gwendraeth pan oedd yn blentyn a daniodd ei ddiddordeb oes ym mywyd glan y môr.

Rhaid ichi dyrchu yn y tywod amdanyn nhw ac os ydych chi yn y lle iawn, gallwch gael helfa go dda.

2. Cregyn gleision (mussels)

Ffynhonnell y llun, George Rose

Mae rhain hefyd yn gyffredin a hawdd eu cael, wedi glynu wrth greigiau ar lan y môr.

Ond mae angen gwneud yn siŵr fod y dŵr yn lân wrth gasglu unrhyw gregyn, rhybuddia Craig.

"Os ydych chi'n casglu pethau fel oysters, cockles, cregyn gleision a phethau tebyg mae'n bwysig eu casglu ble mae'r dŵr yn glir a does dim llygredd yno," meddai.

"Ni'n lwcus yng Nghymru, mae lot o'n traethau ni'n glir iawn."

3. Corgimychiaid (prawns)

Ffynhonnell y llun, Craig Evans

Dyma anifail arall sy'n rhan arferol o helfa glan môr Craig - mae corgimychiaid yn byw rhwng y creigiau mewn pyllau glan môr.

Yn wahanol i orgimychiaid, mae perdys (shrimps) yn byw ar y tywod ac i'w cael mewn dŵr bas pan mae'r llanw allan.

4. Ffenigl y môr (samphire)

Ffynhonnell y llun, Craig Evans

Peidiwch ag anghofio am y planhigion maethlon sydd i'w cael ar lan y môr chwaith - mae Cymru'n enwog am ei bara lawr, sydd wedi ei wneud o fath o wymon.

Mae ffenigl y môr yn boblogaidd yn rhai o'r bwytai gorau ond mae i'w gael ar ein glannau.

"Mae samphire i'w gael mewn dau fath - rock samphire sy'n byw ar y clogwyni a marsh samphire sy'n byw ar yr aber ble mae mwd," meddai Craig.

5. Helygen y môr (sea buckthorn)

Ffynhonnell y llun, Craig Evans

Mae aeron lliw oren y planhigyn yma sy'n tyfu ar dwyni tywod yn eitha' sur ond gydag ychydig o siwgr, mae Craig yn hoffi gwneud saws blasus iawn a llawn maeth ohono.

"Chi'n gallu ei brynu mewn fel health food shops fel diod - mae'n boblogaidd dros y byd ac yn tyfu mewn llefydd fel Siberia, Japan a Gwlad Pwyl."

Gwaith cartref cyn mynd

Wedi cael ei gyflwyno i chwilio am fwyd ar y glannau gan ei dad ac yna mynd ati ei hun i ddysgu popeth allai am amgylchedd morwrol ei ardal, mae Craig nawr yn gobeithio pasio'r wybodaeth honno ymlaen i eraill drwy ei fideos a'r cyrsiau mae'n eu cynnig.

Ei ardal arbenigol ydy'r arfordir o Ben-bre ger Llanelli hyd at Dyddewi yn Sir Benfro.

Cyn mynd i fforio meddai, mae'n bwysig gwybod beth sydd i'w gael a phryd mae'r llanw allan ac yn ddiogel ichi fynd.

"Rhaid ichi gael llyfr gyda lluniau ichi wybod beth chi'n mynd ar ei ôl - mae sawl pysgod, crancod a prôns i'w cael ac mae'n bwysig gwybod beth chi am gasglu," meddai.

Llond sosban o fwyd mor
Pixabay
Pan fod y llanw allan, mae'r ford yn llawn
Dihareb gan frodorion America sydd ar wefan Craig Evans

"Roedd rhaid i bobl fwyta mas o'r môr ers talwm achos oedd dim arian gyda nhw blynydde nôl ond mae'r wybodaeth wedi mynd ar goll.

"Ganrifoedd yn ôl roedd rhaid i bobl yn y gaeaf fynd i'r môr i gasglu planhigion fel sea beet - 'sdim arall yn tyfu yn y gaeaf a dyna'r unig le i gael fitamin C dros y gaeaf."

Betys arfor yw'r enw yn Gymraeg ac mae'n tyfu'n wyllt ar ein glannau ac yn cael ei gymharu gyda spigoglys (spinach) weithiau.

Octopws a chregyn bylchog

Ymysg yr anifeiliaid eraill mae Craig yn eu casglu yn gyson mae wystrys, cyllyll môr (razor clams, y gellir eu casglu drwy roi halen yn eu tyllau) a chrancod.

Yn llai aml, mae wedi dod o hyd i octopws hefyd.

Ond ei hoff beth i'w ddarganfod ar y traeth ydy cragen fylchog (scallop) ac mae'n hoffi eu bwyta heb eu coginio.

"Mae'n anodd eu cael nhw ar y traeth achos maen nhw'n byw dan oboiti 20 troedfedd o ddŵr ond ambell waith ar ôl storm maen nhw'n cael eu taflu ar y traeth."

O'r holl fathau o wymon a morwiail (sea kelp) sydd i'w cael ar lan y môr, ei hoff wymon yw un o'r enw pepper dulse sydd â blas fel truffle a garlleg, meddai Craig. Mae rhuddugl môr (sea radish) hefyd yn blanhigyn y gallwch chi ddod o hyd iddo.

Felly, gwnewch eich gwaith cartref a manteisiwch ar ambell lanw mawr a phenwythnos braf dros yr haf.

(Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol fis Medi 2019)

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig