Sion Williams: Beth sy' 'na i de?
- Cyhoeddwyd
Mae Sion Williams yn bysgotwr - yn pysgota allan i Borth Colmon ym Mhen Llŷn, ac yn byw gyda'i deulu yn Sarn Mellteyrn. Mae'n mwynhau coginio bwyd môr, ond does dim yn well ganddo na chinio dydd Sul a threulio amser yn mwynhau bwyta gyda'r teulu.
Beth sy' i de heno?
Cacen grancod (cranc Porth Colmon, tatws, parsli ffresh, pupur du, halen a chilli) gyda moron, brocoli, pys a saws chilli melys.
Pwy sy' rownd y bwrdd?
Nia, fi, Catrin ac Elliw (y plant).
Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu beth sy' i de?
Cael amrywiaeth o fwydydd sy'n plesio pawb.
Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?
Rwyf yn arbenigwr ar goginio stêc a thatws a llysiau rhost.
Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?
Cawl cennin cartref, gan fod y cynhwysion gan amlaf wrth law a gan fod modd ei baratoi mewn ychydig o funudau.
Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?
Yndi, rwyf yn bwyta amrywiaeth o fwydydd iachach, ac yn defnyddio llai o siwgr a halen wrth goginio. Rwyf hefyd yn fwy ymwybodol o'r cynhwysion mewn bwydydd gan fod gan fy merch ieuengaf glefyd siwgr math 1.
Beth yw dy hoff bryd o fwyd?
Mae'n anodd iawn dewis fy hoff bryd bwyd gan fy mod yn hoffi amrywiaeth o wahanol fwydydd. Mae hefyd yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a beth sydd mewn tymor.
Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?
Nawr ac yn y man byddaf yn cael brecwast wedi ei gogonio, sy'n pigo fy nghydwybod.
Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?
Yn ddiweddar, welcs (rhywogaeth o falwen y môr).
Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?
Cinio dydd Sul gan ei bod yn braf cael amser i ymlacio a chael sgwrsio wrth y bwrdd gyda'r teulu. Teimlaf fod eistedd wrth y bwrdd gyda'r teulu yn bwysig yng nghanol prysurdeb bywyd.
Beth yw dy hoff gyngor coginio?
Y cyngor gorau yw i beidio cymhlethu pethau, cadwch bethau mor syml â phosibl, nid oes angen gor-gymhlethu cynhwysion lleol o'r safon uchaf.
Beth yw dy hoff bryd o fwyd erioed?
Un o fy hoff fwytai yw Dylan's yng Nghricieth, gan eu bod yn cynnig bwyd blasus o safon uchel. Maent yn cefnogi cynhyrchwyr a chynnyrch lleol. Byddaf yn mwynhau mynd i'r bwyty gan eu bod yn rhoi gwasanaeth da, a hefyd mae golygfeydd arbennig o Fae Ceredigion i'w gweld.
Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?
Ni wnaf fwyta bwydydd parod sydd wedi eu gor-brosesu.