Adran Dau: Oldham 0-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Kevin Ellison yn dathlu ar ôl sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Kevin Ellison sgoriodd y gôl i Gasnewydd

Casnewydd oedd yn fuddugol yn erbyn Oldham ddydd Sadwrn ar ôl i Kevin Ellison sgorio 88 munud mewn i'r gêm.

Daeth Ellison, 42, ymlaen o'r fainc a pheniodd croesiad o Ryan Haynes mewn i'r gôl, yn rhoi tri phwynt i dîm Mike Flynn.

Carl Piergianni ddaeth yn agosach at sgorio i Oldham, yn penio'r bel tuag at y gôl dwywaith, ond yn methu.

Cafodd beniad mewn i'r gôl gan amddiffynnwr Casnewydd Mickey Demetriou ei wrthod am ei fod wedi camochri.