Y Cymro sefydlodd un o gwmnïau wisgi mwyaf America
- Cyhoeddwyd
Mae cysylltiadau'r gwneuthurwr wisgi, Jack Daniel â Chymru yn eitha' adnabyddus - roedd ei daid yn Gymro ac roedd ei deulu o orllewin Cymru. Ond nid Jasper Newton 'Jack' Daniel oedd yr unig un â chysylltiadau Cymreig i sefydlu wisgi Americanaidd.
Un o'r bourbons mwya' poblogaidd heddiw yn yr Unol Daleithiau yw Evan Williams, ac mae'r perchnogion hefyd yn dweud mai nhw yw distyllfa hynaf Kentucky.
Mae bourbon yn fath o wisgi sy'n dod o dalaith Kentucky, ac un o'r pethau sy'n ei wahaniaethu o wisgi cyffredin yw ei fod wedi ei wneud o gorn (o leiaf 51%). Yn dechnegol dydy Jack Daniel's ddim yn bourbon, er bod llawer yn gwneud y camgymeriad yma.
Pwy oedd Evan Williams?
Cafodd ei eni yn Dale, Sir Benfro yn 1755, ac mae'n debyg iddo symud i'r Unol Daleithiau yn 1780. I Jefferson County yn Kentucky yr aeth, gan setlo yn ninas fwya'r dalaith, Louisville.
Dinas newydd oedd Louisville ar y pryd, cafodd ei sefydlu dim ond dwy flynedd cyn i Evan Williams fudo dros yr Iwerydd.
Gormodedd o gynnyrch
Wedi iddo gyrraedd Kentucky fe sylwodd Evan bod problemau gyda'r diwydiant amaeth yno - roedd y tir yno yn hynod gynhyrchiol ond roedd y rhwydweithiau mewnol i ddanfon a gwerthu'r cnydau yn wan.
Oherwydd hyn roedd 'na lawer o gorn a grawnfwydydd eraill dros ben, ac yn 1783 fe fanteisiodd Evan Williams ar y sefyllfa gan agor distyllfa ar lannau'r Afon Ohio.
Mae'n debyg mai hon oedd distyllfa cyntaf Kentucky, ac roedd Evan yn gyrru ei wisgi lawr yr Afon Ohio ar y cychod flatboat.
Ond mae'n rhaid nodi nad yw Evan Williams wedi bod yn cynhyrchu bourbon yn ddi-stop ers 1873 - mae'r fersiwn modern sy'n cael ei yfed heddiw yn dyddio o 1957.
Er iddo lwyddo yn y pen draw, roedd dyddiau cynnar y fenter yn anodd i Evan Williams. Cafodd broblemau gyda'i drwydded gwerthu alcohol a olygai ei fod gerbron Uchel-Reithgor (Grand Jury) yn 1788.
Yn 1802 cafodd Evan Williams ei erlyn am safonau glendid am fod y dŵr a oedd dros ben o'r broses o greu ei wisgi'n achosi niwed amgylcheddol - digwydd bod y fo oedd harbwr feistr y lanfa ar y pryd ac yn gyfrifol am lendid yr ardal.
Roedd gan Williams sawl rôl bwysig ym mywyd cymdeithasol Louisville, gan gynnwys bod yn un o saith ymddiriedolwr y ddinas. Yn ôl y sôn roedd yn dod i bob cyfarfod gyda photel o'i wisgi i'w rannu gyda ei gyd-aelodau.
Roedd Louisville yn ddinas fasnachol bwysig, gyda llawer o draffig yn mynd ar yr Afon Ohio ac ar y trenau drwy'r ddinas. Ond roedd y tirwedd yn gallu bod yn her i ddosbarthu y wisgi gafodd ei greu yno.
Gan fod Louisville wedi ei leoli ar 'Falls of the Ohio River', ble mae'r llif yn gryf, roedd cychod yn cael eu gwagio ar un ochr y ddinas er mwyn cael ei gludo ar y tir.
Yna roedd y cynnyrch yn cael ei roi nôl ar y cychod yn is lawr yr afon, ochr arall i'r rhaeadr ble nad oedd y cerrynt mor gryf, cyn cael eu cludo ymlaen i New Orleans.
Roedd Evan Williams hefyd yn dipyn o grefftwr, gan weithio fel saer maen. Williams oruchwyliodd y gwaith o adeiladu'r carchar a'r llys cyntaf yn Jefferson County, Kentucky.
Bu farw Evan Williams yn Louisville ar 15 Hydref, 1810, ond mae ei enw i'w weld ar boteli bourbon ledled y byd hyd heddiw.
Hefyd o ddiddordeb: