Adran Dau: Tranmere Rovers 0-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Alex Fisher yn ei gêm gyntaf i'w glwb newydd wrth i Gasnewydd guro Tranmere Rovers oddi cartref.
Fe rwydodd unig gôl y gêm wedi awr o chwarae, a hynny ar ôl dod yn agos at sgorio yn gynharach gyda foli a darodd y trawst.
Daeth Tranmere yn agos at sgorio gyntaf pan fu bron i Priestley Farquharson ddargyfeirio croesiad Sam Foley i'w rwyd ei hun, ond llwyddodd y golwr Joe Day i fwrw'r bêl dros y bar.
Llwydodd Day wedyn i amddiffyn mantais Casnewydd wrth atal peniad isel gan Elliott Nevitt.
Golyga'r canlyniad fod Casnewydd yn codi i'r nawfed safle yn y tabl gyda chwech o bwyntiau.
Y dirprwy hyfforddwr, Wayne Hatswell oedd wrth y llyw yn absenoldeb y rheolwr, Michael Flynn sy'n hunan-ynysu wedi prawf coronafeirws positif.
Bydd Flynn hefyd yn colli gêm gartref gyntaf Casnewydd o'r tymor pan fyddan nhw'n herio Southampton ganol yr wythnos yng Nghwpan y Gynghrair Lloegr a'r gêm gynghrair penwythnos nesaf yn erbyn Salford City.