Canrif ers geni Raymond Williams
- Cyhoeddwyd
Mae 31 Awst yn nodi canrif ers geni'r academydd, nofelydd ac ymgyrchydd gwleidyddol adain chwith o Sir Fynwy, Raymond Williams.
Roedd yn ffigwr dylanwadol yn trafod diwylliant, y cyfryngau, dosbarth a hawliau dynol.
Rhywun sydd wedi arbenigo ar waith a bywyd Raymond Williams yw'r Athro Daniel G. Williams o Brifysgol Abertawe, dolen allanol, golygydd y casgliad o ysgrifau gan Raymond Williams, Who Speaks for Wales? Nation, Culture, Identity.
Beth oedd cefndir Raymond Williams?
"Roedd ei dad yn gweithio ar y rheilffyrdd fel signalman, ac mae hynny'n rhan bwysig o gefndir y nofel gyntaf, Border Country, sy'n hunan-gofiannol iawn," meddai Daniel Williams.
"Cafodd fagwraeth dosbarth gweithiol, ond mewn ardal amaethyddol. Mae tuedd i feddwl ei fod yn feddyliwr ar y chwith gan bod e o'r cymoedd ond doedd e ddim, roedd e'n byw ar y ffin ac roedd hynny'n dod i'r wyneb yn ei waith - yn greadigol ac yn theoretig."
"Roedd ei dad wedi gweithio am gyfnod yn Resolfen, ac yn sicr wedi meithrin math o ymwybyddiaeth dosbarth yno. Yn y cyfnod yna bydde Resolfen wedi bod yn dref Gymraeg iawn o ran ei iaith a byd-olwg.
"Roedd diddordeb gan Raymond mewn math o fudiadau radical gwerinol (peasant counter-culture) ac yn ei gyfrol The Country and City o 1973 mae hynny'n bwyslais mawr ganddo fe - mae e'n dadlau'n gryf yn erbyn y duedd i weld y byd o safbwynt urban neu dinesig."
Effaith Yr Ail Ryfel Byd
"Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol pan oedd yn Caergrawnt ac aeth i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd e'n tank commander yn dilyn D-Day ac roedd hynny yn brofiad ffurfiodd ei fywyd e.
"Mae e'n rhan o genhedlaeth ar ôl y rhyfel, fel E.P Thompson yr hanesydd a Richard Hoggart, sy'n dod nôl o'r rhyfel ac yn ceisio gwneud synnwyr o'u profiadau nhw ac yn gwneud hynny drwy ddadlau achos y dosbarth gweithiol a hawl y dosbarth gweithiol i gael llais a chynrychiolaeth yng ngwleidyddiaeth Prydain mewn ffordd nad oedd wedi digwydd o'r blaen.
"Fe'i beirniadwyd nhw wedyn gan y to nesa o feddylwyr ar y chwith am ddibynnu ar brofiad - roedd Raymond Williams (a E.P Thompson) yn credu bod profiad pobl yn graidd i'w syniadaeth nhw, ac i'r theoreticians mwy Marcsaidd ddaeth ar eu hôl nhw dyw profiad ddim yn sail i unrhyw beth.
"Ond nath y genhedlaeth mwy diweddar 'na ddim ymladd yn Yr Ail Ryfel Byd, a dwi'n credu bod hynny mewn ffordd ddim yn cael ei bwysleisio digon - y profiad o ymladd ac y profiad o gymysgu gyda pob math o bobl o fewn y fyddin."
Teimlo'n 'wahanol' yng Nghaergrawnt
Enillodd Raymond Williams ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg y Drindod, Prifysgol Caergrawnt, ac tra oedd yno roedd yn ymwybodol iawn o'r ffaith ei fod o gefndir gwahanol iawn i'w gyd-fyfyrwyr.
"Os chi'n gwrando ar be ddywedodd e roedd e'n teimlo'n wahanol yng Nghaergrawnt drwy ei gyfnod fel myfyriwr a'i gyfnod fel academydd. Roedd 'na gyfrol gyhoeddwyd dechrau'r 80au, 'My Cambridge', a'r frawddeg gyntaf ysgrifennodd Raymond yn y gyfrol oedd 'It was never my Cambridge'.
"Yn Politics and Letters (1979) mae'n dweud yn ddigon agored bydde fe 'di bod llawer gwell petai wedi mynd i Aberystwyth, ac roedd ei brifathro wedi ei annog i aros yng Nghymru gan fydde hynny wedi adlewyrchu ei ddiddordebau yn well. Ond os oedd e'n teimlo mor ynysig ac ymylol ac mae'n honni felly pam wnaeth e dreulio ei yrfa gyfan yna i bob pwrpas? Ar ôl yr Ail Ryfel Byd fe ath e i ddysgu oedolion, yn Sussex yn bennaf, ac aeth nôl i Gaergrawnt yn 1961 fel darlithydd yn yr adran Saesneg."
"Be' dwi wedi glywed gan bobl oedd yn ei 'nabod yr adeg hynny oedd ei fod e'n bontiwr. Fe fydde fe'n arwain faculty meetings a phethau o'r fath, ac yn y 70au yn arbennig roedd pethau'n chwerw iawn rhwng y to newydd o theorists a'r hen do oedd dal moyn darllen gweithiau llenyddol yn agos. Oedd Raymond Williams fel petai uwchlaw y dadleuon hynny ac yn actio fel pont rhyngddyn nhw.
"Roedd Culture and Society, ei gyfrol gyntaf a wnaeth wneud argraff a chreu ei yrfa fe mewn ffordd, yn garedig iawn i feddylwyr y dde yn ogystal a'r chwith. Mae'n trafod Edmund Burke, T.S Elliot a Matthew Arnold, y traddodiad ceidwadol a'r traddodiad rhyddfrydol yn cael dipyn o le, ac er ei fod yn darllen nhw o safbwynt sosialaidd dydi o ddim yn or-feirniadol felly mae'r syniad ohono fe'n pontio traddodiadau deallusol yn cael ei adlewyrchu yn ei fywyd personol yng Nghaergrawnt hefyd."
Plaid Cymru a Llafur
"Y gred gyffredinol oedd iddo ymuno â Phlaid Cymru yn hwyr, yng nghyfnod Dafydd Elis-Thomas wrth y llyw. Ond yn yr archif yn Abertawe dwi wedi ffeindio cerdyn aelodaeth o 1969.
"Roedd e'n aelod o'r Blaid Lafur am gyfnod byr ac roedd e'n rhyfedd o feirniadol o rai o ffigyrau amlwg Llafur, yng Nghymru a thu hwnt, drwy gydol ei yrfa i ddweud gwir. Mae 'na sylwadau beirniadol o Aneurin Bevan ac roedd e'n casáu Michael Foot. Roedd e'n obeithiol o lywodraeth Wilson yn 1964, ond erbyn '67 mae o'n cyd-olygu'r May Day Manifesto sy'n math o gyfrol sy'n annog y Blaid Lafur i ailafael yn eu gwreiddiau radicalaidd a dod yn fwy sosialaidd - mae'r gyfrol yn cael ei anwybyddu bron yn llwyr gan y Blaid Lafur.
"Dwi'n credu bod y ffaith iddo ymuno a Phlaid Cymru'n gynnar yn newid y ffordd falle ni'n darllen rhai o'r gwaith diweddarach. Mae The Country and the City yn fy nharo i, o wybod hynny, fel cyfrol cenedlaetholgar."
"O'n i'n ei weld e (Raymond Williams) pan nes i olygu Who Speaks for Wales am y tro cyntaf yn 2003, fel ffigwr oedd yn helpu pontio'r ddau draddodiad - cenedlaethol a sosialaeth. Roedd hynny yn nyddiau datganoli yn rywbeth oedd llawer ona ni am ei weld yn tyfu.
"Er, pan ddaeth y gyfrol yna allan doedd dim gymaint o ddiddordeb yn Raymond Williams, a dim llawer yn gweithio arno fe. Erbyn hyn mae llawer mwy - mae'r argraffiad 100 mlwyddiant 'ma wedi cael llawer mwy o sylw a drafodaeth.
Raymond 'dal yn berthnasol'
"Pan mae rhywun yn marw dyw hi ddim wastad yn glir bydd ei llais a'i syniadau nhw'n parhau, h.y ai lleisiau i gyfnod penodol oedden nhw. Mae awgrymiadau a syniadau yng ngwaith rhai meddylwyr sy'n ddefnyddiol i genedlaethau hwyrach ymlaen - y meddylwyr sy'n parhau i gael dylanwad.
"Am wn i bydde lot o bobl wedi gosod Raymond Williams ymysg y cyntaf - pan ddaeth Who Speaks For Wales allan ar ddechrau'r mileniwm oedd fel petai ei syniadau yn perthyn i'r hen chwith.
"Ond erbyn heddiw mae fel petai'n perthyn i'r ail gategori lle mae llawer o'i syniadau ynglŷn a democratiaeth, addysg, cenedligrwydd yn gryf iawn. Mae'r ysgrifau Who Speaks for Wales, yn enwedig rhan fel 'Are we becoming more divided?' - gall hwnna fod wedi cael ei sgrifennu y llynedd.
"Ma'n fy nharo i wrth ail-olygu'r gyfrol nawr bod llawer o syniadau Raymond dal yn berthnasol iawn, ac neb falle wedi sgrifennu cystal ar rai o'r materion hynny."
Roedd Raymond Williams yn gweld mudiadau dros hawliau merched, egni gwyrdd a hawliau ieithyddol fel rhai oedd yn rhan o'r adain chwith, fel esboniai Daniel Williams: "Roedd wastad diddordeb ganddo fe mewn mudiadau blaengar newydd, ac mewn ysgrif yn Who Speaks For Wales? mewn adolygiad o gyfrol Ned Thomas, The Welsh Extremist, mae e'n gosod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yng nghyd-destun Black Power, hawliau sifil yn Ulster, ac mae'n sôn am ffeministiaeth a hawliau dynol.
"Y chwith amrywiol sydd gan Raymond Williams mewn golwg, a diddordeb mewn cyfranogaeth pobl sydd heb gael lleisiau yn y system wleidyddol, a hynny wrth gwrs mewn ffordd o herio'r dde a'r hyn ydyn ni'n galw heddiw'n neo-liberalism."
Beth fydde Raymond yn meddwl o Gymru heddiw?
"Bydde fe'n sicr yn gweld Cymru fel lle ble mae gofod i greu math gwahanol o wleidyddiaeth, ac i herio'r dde eithafol. Roedd e yn yr 80au yn dechrau ymhél â syniadau gwyrdd - mae Socialism and Ecology yn ysgrif ganddo o 1983 ac roedd diddordeb gyda fe yn y gwyrddio yn yr Almaen.
"Dwi'n credu y bydde fe wedi cryfhau ei ymlyniad e i wleidyddiaeth Cymreig."
Bu farw Raymond Williams ym mis Ionawr 1988 yn 66 oed. Fe sgrifennodd 25 o lyfrau, gan gynnwys nofelau, dramau a cofiant o George Orwell. Er ei fod wedi marw ers 33 mlynedd mae Raymond Williams yn debygol o fod yn ffigwr dylanwadol a pherthnasol yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.
Hefyd o ddiddordeb: