Cofio 30 mlynedd ers 'terfysgoedd bara' Trelái
- Cyhoeddwyd
"Pan ddaeth yr heddlu mewn, aeth un peth o ddrwg i waeth a trodd y peth o ddifri yn reiat go iawn."
Drideg mlynedd yn ôl gwelwyd sawl diwrnod o drais yng Nghaerdydd, ddaeth i gael ei adnabod fel 'terfysgoedd bara' Trelái.
Mewn sgwrs arbennig gyda Cymru Fyw, mae Tim Hartley'n cofio gohebu ar y stori i'r BBC ac yn sôn am goblygiadau hir-dymor y trais ar ardal Trelái.
Asgwrn y gynnen oedd Abdul Waheed, boi oedd yn berchen ar siop yna (yn Trelái). Mae rhai yn dweud mai dadl oedd e yn ymwneud â gwerthu bara - ond nid hynna oedd wrth wraidd y peth. 'Oedd e wedi taflu rhywun oedd yn trio dwyn o'i siop allan, a 'nath y crwt yna a'i ffrindiau gymryd yn erbyn Mr Waheed a thorri'i ffenestri fe.
Pan ddaeth yr heddlu mewn, aeth un peth o ddrwg i waeth a trodd y peth o ddifri yn reiat go iawn.
Brwydr am dir
Parodd hwnna am rhyw chwe noson, ac o'n i yno ar ran y BBC am rai o'r nosweithiau yna ac yna gyda'r dydd. Beth oedd yn ddiddorol oedd bod y peth bron â bod fel brwydr canoloesol - pwy oedd yn dal y tir uchel 'na ar ben Wilson Road, lle'r oedd siop Mr Waheed.
Ac yna o'dd y dynion ifanc - gan amla', dynion o'n nhw - yn sefyll yna yn taflu pob math o bethau at yr heddlu - ac o'n i'n ffilmio tu ôl i lein yr heddlu - a gwthio nôl a mlaen i drio cael gafael ar y tir uchel yna i drio tawelu pethau.
O'dd e'n frawychus ar y pryd oherwydd fod bomiau petrol yn dod atoch chi, pob math o gerrig a darnau o bren.
Anhrefn
Ond o'dd e hyd yn oed yn waeth yn ystod y dydd, oherwydd o'n i'n teimlo fod anhrefn a diffyg cyfraith a threfn yna. Dwi'n cofio siarad gyda phlismon yna oedd yn llawes ei grys er mwyn dangos bod nhw ddim am ymosod ar y bobl ifanc yna.
Ond beth oedd yn digwydd wedyn 'ny, oedd 'na ŵr ifanc yn cerdded i lawr Wilson Road yn taflu cyllell yn yr awyr, yn herio'r heddlu i'w arestio fe. Achos o'dd yr heddlu'n gwybod, petaen nhw'n symud i mewn 'sa'r peth yn chwythu i lan hyd yn oed yn rhagor.
Un prynhawn hefyd wedi 'ny, dyma dyn yn dod ar gefn ei foto-beic - dim helmed ar ei ben e - ar y pafin, ac yn gwawdio ni oedd yn sefyll yna a'r heddlu i drio ei rhwystro fe. Off â fe i lawr y ffordd. Felly o'dd 'na rhyw deimlad o anhrefn, a neb yn gwybod sut i ymateb yn iawn.
Ymateb
Mi oedd y gwleidyddion ar y pryd yn bwysig iawn, iawn yn hyn o beth - y diweddar Rhodri Morgan yn Aelod Seneddol, a'r Parchedig Bob Morgan, oedd yn arweinydd Cyngor Caerdydd, ond yn bwysicach, fe oedd â'r offeiriadaeth rownd y gornel, ar Grand Avenue yn Nhrelái.
O'dd y ddau ddyn yma yn 'nabod yr ardal, ac yn hytrach na jest dweud 'chewn ni ddim tor-cyfraith, mae'n rhaid i ni bwyso lawr ar y bobl yma' - oedden nhw'n cydnabod bod 'na ryw fath o resymau dwfn iawn tu ôl i hwn.
Cofiwch, dechrau mis Medi oedd hyn, ac mi oedd hi wedi bod yn haf poeth iawn, iawn. A beth sy'n digwydd wedi 'ny pan mae'r tywydd yn braf gyda'r hwyr, bod pobl yn dechrau aros tu fas.
Ond mi oedd 'na broblemau gyda Trelái cyn hyn. Prin iawn oedd yr adnoddau yno. Dwi'n credu oedd yr orsaf heddlu wedi cau. Dwi'm yn credu oedd nifer o dafarndai yno.
Dwi ddim yn esgusodi tor-cyfraith - dweud ydw i, a dweud oedd y gwleidyddion yna ar y pryd, bod yna resymau tu hwnt i'r hyn ddigwyddodd gyda siop Abdul Waheen.
Wrth edrych nôl ar y peth, dwi'n credu oedd e'n siomedig iawn ar yr ymateb i hwn - yn enwedig y cyfryngau yn Llundain - a jest lladd ar bobl ac ar faestref cyfan o Gaerdydd. Achos mae'r stigma yna wedi para' hyd heddi'.
O'n i'n byw ar y pryd i lawr yn Nhreganna, jest dros y bont o Drelái. Anaml iawn y bydden i'n mynd dros y bont yna. O'dd enw ar Drelái. Y broblem yw, mae'r enw 'na dal gyda hi a phobl dal i feddwl yn ôl deg mlynedd ar hugain.
Dyna yw'r broblem heddi', bod y digwyddiad yna, y chwe noson, wedi stigmateiddio cymdeithas gyfan. Mae lot o dda yn mynd 'mlaen yna - mae 'na gymuned dda iawn yna.
Y broblem yw beth mae pobl yn cofio, yn 1991, the Ely Bread Riots, a mae hynny hyd heddiw yn drist iawn.
Hefyd o ddiddordeb