Adran Dau: Casnewydd 2-2 Leyton Orient
- Cyhoeddwyd
Yr eilydd Dom Telford a sicrhaodd gêm gyfartal i Gasnewydd yn erbyn Leyton Orient yn eu gêm gartref gyntaf o'r tymor.
Roedd Harry Smith wedi rhoi yr ymwelwyr ar y blaen gyda pheniad cryf cyn hanner amser ond fe rwydodd Matt Dolan i'r Alltudion i'w gwneud yn gyfartal ar hanner amser.
Chymerodd hi fawr o amser i Harry Smith benio'r bêl i'r rhwyd eto ar ddechrau'r ail hanner a rhoi Leyton ar y blaen.
Hanner awr yn ddiweddarach cafwyd cic gosb ar ôl trosedd yn erbyn Timmy Abraham, ac o'r gic honno y daeth gôl gyntaf Telford i'r clwb.
Roedd y deg munud olaf yn llawn cyffro wrth i'r naill dim a'r llall geisio sicrhau tri phwynt, ond gorffen yn gyfartal wnaeth hi.
49 munud i mewn i'r gêm fe fu cefnogwyr y ddwy ochr yn cymeradwyo am funud gyfan er mwyn dangos eu parch i'r diweddar Justin Edinburgh a fu'n rheolwr ar y ddau dîm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2021