Cofio 9/11: "Mae hyn yn rhan o bob un ohonom"

  • Cyhoeddwyd
Trychineb 9/11Ffynhonnell y llun, Sacha Waldman

A hithau'n 20 mlynedd ers ymosodiad 11 Medi ar y World Trade Center yn Efrog Newydd a'r Pentagon, yn Virginia, y newyddiadurwr Maxine Hughes sydd wedi siarad gyda rhai o'r bobl a gafodd eu heffeithio gan ddigwyddiadau erchyll y diwrnod hwnnw:

Rwy'n credu y gall y rhan fwyaf o bobl sydd dros 30 oed gofio lle roedden nhw ar 9/11.

Ar 10 Medi, dwi'n cofio ei bod hi'n bwrw glaw. Roeddwn i'n byw yn Efrog Newydd ac yn gyrru i faes awyr JFK gyda ffrind er mwyn hedfan i Rufain ar ein gwyliau.

Fe gyrhaeddon ni'r gwesty yn Yr Eidal heb allu cysgu a rhoi'r teledu ymlaen. A dyna pryd cafodd yr ail dŵr ei daro.

Ffynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Maxine Hughes

Dechreuodd fy ffôn ganu'n ddi-baid gyda theulu nôl yn America yn poeni. Roedd pobl wedi dychryn, ac yn dweud wrthom am beidio mynd allan o'r gwesty, ac y byddai unrhyw un gyda ID Americanaidd yn darged.

Roedd fy nheulu ym Manhattan, ddeg munud o'r ddau dŵr. Doedd y ffonau ddim yn gweithio, roedd pawb yn poeni.

Roedd y delweddau ar y teledu yn anghredadwy, pob sianel yn dangos fideo o'r awyrennau yn taro'r adeiladau, drosodd a drosodd.

Roedd tad fy ffrind yn gweithio yn y Pentagon pan gafodd yr adeilad ei daro. Roedd yn rhaid i ni aros am oriau cyn clywed ei fod wedi goroesi'r ymosodiad.

Roedd o'n fwy ffodus na'r 2,977 a gollodd eu bywydau y diwrnod hwnnw, ugain mlynedd yn ôl.

Newidiodd y digwyddiad fywydau cymaint o bobl. Newidiodd Medi 11 2001 y byd.

"Tawelwch. Ni fyddaf byth yn ei anghofio"

Mae Sacha Waldman yn ffotograffydd, yn wreiddiol o De Affrica. Roedd wedi symud i Efrog Newydd i ffeindio gwaith.

Roedd bywyd yn dda a chyffrous, ag Efrog Newydd yn ddinas llawn cyfle. Roedd Sacha wedi llwyddo i gael gwaith gyda'r New York Times.

Ar 9/11, roedd o'n gweithio ym Manhattan, a chlywodd sŵn y tŵr cyntaf yn cael ei daro. Fe redodd i gyfeiriad y World Trade Center wrth i'r ail dŵr gael ei daro.

Disgrifiad o’r llun,

Sacha Waldman

Mae'n gallu cofio'r diwrnod hwnnw fel oedd hi'n ddoe.

"Roedd y sŵn mor uchel, y panig, ac anhrefn, pobl yn rhedeg i bobman, yn sgrechian, ac yna dim ond distawrwydd. Tawelwch. Ni fyddaf byth yn ei anghofio," meddai.

Ond mae 'na gymaint o bethau mae Sacha eisiau eu anghofio am y diwrnod hwnnw.

"Roeddent yn dod â phobl allan, ond rwy'n cofio nad oeddent hyd yn oed yn gyrff cyflawn. Gwelais goesau, breichiau... roedd yn ofnadwy. Dyna'r rhan waethaf ohono, y golled ddynol; pobl."

"Yna clywais yr ail dŵr yn cael ei daro"

Mae Charles Wolf yn dal i fyw ychydig flociau o'r World Trade Center. Yn 2001 roedd o'n byw yn yr un fflat, gyda'i wraig Katherine, yn wreiddiol o Abertawe.

"Y bore hwnnw, nid wy'n gwybod pam, ond gwnes i bwynt o roi sws i Katherine, a'i gwylio wrth iddi gerdded i lawr y coridor i weithio," meddai.

Fel rheol, byddai Katherine yn dechrau gweithio yn y ganolfan am 9am, ond roedd ei rheolwr wedi gofyn iddi ddod i mewn yn gynnar.

"Clywais yr awyren gyntaf yn taro," cofiai Charles. "Rhedais tu allan, a gweld twll mawr yn ochr y tŵr. Rhedais i tu mewn, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud. Yna clywais yr ail dŵr yn cael ei daro."

Disgrifiad o’r llun,

Charles Wolf

Am ychydig ddyddiau, arhosodd Charles yn obeithiol bod ei wraig Katherine mewn ysbyty yn rhywle, ac y byddai'n dod o hyd iddi. Ond bedwar diwrnod yn ddiweddarach, roedd yn gwybod ei bod hi wedi mynd.

"Y ddim gwybod oedd anoddaf," meddai Charles.

Roedd Charles eisiau gwneud rhywbeth positif ar ôl iddo golli ei wraig. Dechreuodd ymgyrchu am iawndal i deuluoedd dioddefwyr 9/11, a cafodd ei ysbrydoli i ymladd dros hawliau'r goroeswyr hefyd.

"Roeddwn i eisiau sicrhau bod pobl yn cael gofal," meddai.

"Roedd yr Arlywydd Bush mewn sefyllfa amhosib"

Ar ôl yr ymosodiad, roedd Americanwyr eisiau dial. Roedd pawb yn siarad am Al Qaeda ac roedd ofn ar bawb.

O fewn deufis roedd yr Arlywydd George W Bush wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Afghanistan, ac wedi addo hela Osama bin Laden.

Fe wnaeth yr ymosodiad yma ar galon economaidd America ysgogi rhyfel am ugain mlynedd a dros y cyfnod, mi wnaeth dros hanner miliwn o bobl golli eu bywydau.

Ond y cwestiwn heddiw yw hyn; beth sydd wedi ei gyflawni ar ôl aberth mor enfawr?

Ffynhonnell y llun, Anadolu Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cadfridog Mark Kimmitt

"Roedd yr Arlywydd Bush mewn sefyllfa amhosib," meddai'r Cadfridog Mark Kimmitt, cyn ysgrifennydd gwladol cynorthwyol yr Unol Daleithiau, ac un o'r arweinyddion milwrol yn Irac ac Afghanistan.

"Gwnaeth y penderfyniad cywir o ystyried yr holl wybodaeth a oedd ganddo ar y pryd."

Mae'r Cadfridog Kimmitt yn llai hyderus pan ofynnaf iddo am Irac, a'r ffaith a ddaeth yn amlwg yn ddiweddarach, nad oedd arfau dinistr torfol yno.

Heddiw, mae cenhedlaeth newydd yn cael ei eni yn Afghanistan sy'n debyg iawn i'r olygfa ugain mlynedd yn ôl - mae'n wlad o dan reolaeth y Taliban.

"Roedd yn cael ei dalu gan yr FBI i adeiladu achos yn fy erbyn i"

Ond nid dim ond yn y dwyrain canol oedd rhyfel George W Bush yn erbyn terfysgaeth.

Yma yn America, roedd yr FBI o dan bwysau i ddangos i Americanwyr eu bod yn ymladd terfysgaeth yn ôl adref hefyd, ac roedd cymunedau Mwslemaidd yma o dan wyliadwriaeth yr awdurdodau.

Mae rhai o'r farn fod yr FBI wedi ffugio achosion terfysgaeth er mwyn iddynt allu barnu pobl yn euog.

Un o'r achosion terfysgaeth gafodd lot o sylw ar ôl 9/11 oedd achos Hamid Hayat o Galiffornia, a oedd wedi ei fradychu gan un o hysbyswyr yr FBI.

Fe gafodd ei ddedfrydu i 24 o flynyddoedd o garchar, dolen allanol, am fynd i wersyll hyfforddi terfysgwyr ym Mhacistan.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hamid Hayat

Roedd Hamid wedi gadael California a mynd i Bacistan i briodi ei wraig, ac aros yna gyda theulu. Roedd yr FBI yn cyhuddo Hamid o fynychu'r gwersyll am chwe mis yn yr amser yma.

"Daliodd yr FBI ati i ofyn cwestiynau i mi a dangos lluniau i mi o leoliad ym Mhacistan a dweud wrtha i ei fod yn wersyll," cofiai Hamid. "Ar ôl oriau roeddwn i wedi blino cymaint, cytunais â nhw oherwydd roeddwn i eisiau mynd i gysgu. Roeddwn i eisiau mynd adref."

Nid oedd gan Hamid gyfreithiwr profiadol i ymladd ei achos, ac fe gafodd tystiolaeth hanfodol ei anwybyddu.

Ond, y llynedd, fe gafodd ei ddyfarniad ei wyrdroi. Cadarnhaodd sawl tyst na adawodd Hamid bentref ei deulu ym Mhacistan ac na allai fod wedi mynychu gwersyll am chwe mis. Doedd y gwersyll yr honnir iddo ymweld â hi ym Mhacistan ddim hyd yn oed yn bodoli.

Ar ôl 14 mlynedd, mae Hamid Hayat yn rhydd.

Disgrifiad o’r llun,

Hamid yn gweld ei deulu am y tro cyntaf ar ôl cael ei ryddhau

"Roeddwn i'n meddwl fod y dyn yn ffrind ond roedd yn cael ei dalu gan yr FBI i adeiladu achos yn fy erbyn i. Dydw i ddim yn teimlo drwgdeimlad nawr serch hynny, rwy'n ddyn rhydd nawr," meddai Hamid.

Mae cannoedd o bobl yn dal i fod yn y carchar yn dilyn ymchwiliadau gan yr FBI.

Eleni, bydd y pum carcharor sy'n cael eu cyhuddo o drefnu ymosodiad 9/11 yn wynebu achos troseddol.

I deuluoedd y dioddefwyr, gallai hyn ddod â rhywfaint o gysur iddynt, ond ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae pobl yn dal i ddioddef effeithiau'r ymosodiad.

"Dywedon nhw wrthi ei bod yn ddiogel"

"Nid wy' wedi bod i'r gofeb," meddai Virginia McGarrity. "Mae'n dal i fod yn rhy boenus imi fynd yno."

Fe'i magwyd mewn fflat un bloc o'r World Trade Center. Roedd ei mam dal yn byw yno ar 9/11. Ar ôl yr ymosodiad, symudodd hi i aros gyda ffrindiau am dri mis, ond daeth yn ôl i'r ddinas ar ôl cael cynnig ad-daliad o 75% yn ei rhent, fel cymhelliant i symud yn ôl.

Ond flwyddyn a hanner ar ôl yr ymosodiad, dirywiodd iechyd ei mam yn syfrdanol. Bu farw o ganser oherwydd llygredd yn yr awyr.

Disgrifiad o’r llun,

Virginia McGarrity

"Pe na bai hi wedi mynd yn ôl yna byddai hi dal yma heddiw," meddai. "Nid oes unrhyw un erioed wedi ymddiheuro. Dywedon nhw wrthi ei bod yn ddiogel.

"Mae yna'r bobl a laddwyd ar 9/11, ac ni allaf ddychmygu pa mor ofnadwy oedd hynny, ond mae effeithiau 9/11 gymaint yn fwy na mae pobl yn ei sylweddoli.

"Dechreuodd yr holl bobl hyn fynd yn sâl, mae pobl yn dal i fynd yn sâl," meddai. "Dydw i ddim yn gwybod beth yw'r gwaddol, oherwydd nawr edrychwch ar Afghanistan. Mae cymaint o bobl wedi dioddef, ac yn dal i ddioddef."

"Mae hyn yn rhan o bob un ohonom"

Dau dwll, nepell o'r afon Hudson yn ne Manhattan. Dyma'r gofeb i'r dau dŵr.

Mae 'na sŵn dŵr wrth iddo lifo o ben y gwacter i lawr i'r hyn sy'n edrych fel twll diddiwedd, fel petai ei fod yn cael ei golli am byth.

Dwi'n cwrdd â Ben Lileas gerllaw gyda'i fab William, sy'n 20 oed.

Cafodd William ei eni ychydig wythnosau cyn yr ymosodiad. Yr unig reswm nad oedd ei fam yn gweithio yn y World Trade Center ar 9/11 yw oherwydd ei bod newydd eni ei mab.

Disgrifiad o’r llun,

William a Ben Lileas

Symudodd y teulu i Ohio yn fuan wedyn, ond roedd Ben yn teimlo bod yn rhaid i'w fab ymweld â'r safle hwn, 20 mlynedd ar ôl yr ymosodiad.

"Dros y blynyddoedd dwi'n dod yn ôl yma, ac mae'n bwysig i mi fod fy mab yn gwybod am yr hyn a ddigwyddodd yma. Mae hyn yn rhan o bob un ohonom," meddai Ben.

Mae'n emosiynol wrth iddo sefyll yma, ac yn methu stopio'r dagrau.

Yn byw yma ac yn magu fy mhlant yn America, rwy'n rhannu teimlad Ben bod yn rhaid i ni ddysgu ein plant am yr ymosodiad, ac am yr hyn a ddigwyddodd wedyn.

"Mae angen i bobl wybod bod effeithiau 9/11 yn dal i ddigwydd," meddai Virginia McGarrity.

"Byddaf yn dysgu fy mhlant amdano pan fyddant yn ddigon hen, fel eu bod yn deall yr hyn a ddigwyddodd i'w nain, na chawsant gyfle erioed i'w chwrdd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Y gofeb ger lleoliad yr ymosodiad ar y World Trade Center yn Efrog Newydd

Ger y gofeb yma yn Efrog Newydd mae 'na wal gydag enw pob person a laddwyd y diwrnod hwnnw. Ond mae cymaint mwy o enwau sydd ar goll.

I gymaint o bobl, mae edrych yn ôl ar y digwyddiad yma dal i fod yn rhy anodd.

Ond mae'n eiliad mewn hanes rydyn ni i gyd yn ei rhannu, na ddylwn ni ei anghofio, wrth i ni edrych i'r dyfodol gyda gobaith.

Pynciau cysylltiedig