Rhannu profiadau preswylwyr cartrefi gofal o'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Lleisiau Coll Covid: Rhannu profiadau preswylwyr cartrefi gofal o'r pandemig

Am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig, mae cynllun gan elusen Age Cymru yn rhoi cyfle i breswylwyr cartrefi gofal siarad yn agored am yr argyfwng covid-19.

Mae grŵp o artistiaid wedi helpu i greu ffilm unigryw yn crynhoi'r hanesion, gyda'r nod o gasglu dros 100 o leisiau erbyn diwedd 2021.

Mae cynllun 'Tell Me More' yn annog preswylwyr i fynegi sut beth ydy byw trwy gyfnod clo mewn cartref gofal.

Wrth gwrs, mae hi wedi bod yn gyfnod hynod anodd i lawer - gyda nifer o breswylwyr a staff gofal wedi mynd yn ddifrifol wael, a hyd yn oed wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig.

Ar Zoom neu Skype, mae'r elusen wedi bod yn holi preswylwyr cartrefi gofal ar hyd Cymru - gan gynnwys cartref gofal Glan Rhos ym Mrynsiencyn, Ynys Môn.

Dywedodd un o reolwyr y cartref, Helen Ombler Williams: "Mae'n braf iddyn nhw gael d'eud sut maen nhw'n teimlo.

"Mae'n braf gweld nhw'n siarad efo pobl wahanol a sut maen nhw 'di dod ymlaen efo Skype, medru siarad efo iPad o flaen nhw - rhywbeth 'sa nhw byth 'di 'neud o'r blaen."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Helen Ombler Williams (chwith) mae nifer o breswylwyr wedi dysgu sgiliau newydd yn ystod y pandemig

Tan rŵan, ychydig iawn o gyfle sydd wedi bod i bobl hŷn leisio eu barn ar Covid-19.

Yn ôl Dafydd Iwan, sy'n gadeirydd Age Cymru yng Ngwynedd a Môn, mae hi'n bwysig ein bod ni'n clywed llais preswylwyr.

"Mae preswylwyr cartrefi gofal wedi diodde', o bosib mwy na neb yn ystod y pandemig, a theimlo oedden ni bod hi'n bwysig ein bod ni'n cael clywed eu llais nhw," meddai.

"'Dan ni'n sôn amdanyn nhw, 'dan ni'n poeni amdanyn nhw ac yn gweithio efo nhw - ond ydan ni'n clywed be' maen nhw'n ei feddwl a be' ydy eu profiadau nhw?

"Dyna ydy pwrpas y cynllun yma ac mae o wedi gweithio yn rhyfeddol o dda - artistiaid yn siarad â nhw dros Zoom neu debyg, ac yna'n gwneud lluniau ohonyn nhw wrth siarad, ac yna'n animeiddio'r lluniau wrth i ni wrando ar y lleisiau'n ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Iwan bod yna dal waith i'w wneud i hwyluso'r cyswllt rhwng teuluoedd a phreswylwyr

Ychwanegodd: "Wrth gwrs, mae hyn yn rhoi rhyddid iddyn nhw siarad. 'Dan ni'n clywed nhw, eu barn nhw, heb ymyrryd gormod ar eu preifatrwydd nhw.

"Mae'r cyswllt yna gyda'u hanwyliaid, gyda'r teulu, yn hollbwysig. Un o'r hen wragedd yn y fideo yn dweud ei bod hi'n lwcus yn medru codi llaw ar ei mab wrth iddo fynd heibio ar y prom yn y bore.

"Dyna oedd hi'n edrych ymlaen ato fo fwya' - ond ddim yn cael siarad go iawn, ddim yn cael cyswllt.

"Mae'n rhaid i ni ddarganfod ffyrdd o hwyluso'r cyswllt rhwng teuluoedd a phreswylwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arfon Mon Owen yn un o'r preswylwyr sy'n cyfrannu at y ffilm

Mae lleisiau Cymraeg yn cael eu casglu ar gyfer y ffilm ar hyn o bryd - ac un o'r cyfranwyr ydy Arfon Môn Owen o gartref Glan Rhos.

"Nes i erioed feddwl 'sa 'na r'wbath fel hyn. O'n i'n clywed bod o 'di mynd i lot o gartrefi - yr hen salwch 'ma te - a rhai wedi colli'u bywyd," meddai.

"Ond dwi ddim yn poeni llawer, 'dwi ddim 'di meddwl amdano i boeni o gwbl. 'Da ni 'di cael ein cadw heb neb yn dod i mewn i fod o risg, ma' nhw 'di edrych ar ein holau ni'n dda iawn.

"'Swn i'n meddwl buaswn i ofn dipyn bach 'taswn i'n mynd 'nôl allan rŵan - 'swn i'n gwatshiad dipyn de."

'Dwi ddim am weld y byd yn mynd 'nôl i fel oedd o'

Mae rhai yn y ffilm yn sôn am ba mor hir ac unig mae'r dyddiau'n gallu bod, heb deulu a ffrindiau'n gallu ymweld mor rhwydd ag o'r blaen.

Yng nghartre' Glan Rhos, mae'r bingo wythnosol yn boblogaidd a hithau'n bwysig cadw'n brysur, fel yr esbonia un arall o'r preswylwyr, Ann Lloyd Rowlands:

"Mae 'na ddwy ochr - un ochr reit lwcus am ychydig wythnosau ac wedyn mae'r ochr arall wedyn. Mae o'n r'wbath i 'neud ac i gadw eich meddwl chi i fynd efo'r rhifau a phethau felly. Ydy, mae o'n hwyl!

"Mae'n siŵr bydd rhaid i ni fyw efo'r peth bydd? Ella neith o farw allan mewn amser ond mae'r ffliw a polio, maen nhw i gyd wedi bod yn dal i godi pen ar un adeg.

"Wedyn mae'n siŵr mai rhyw fath o ffliw fydd o ymhen blynyddoedd, gan obeithio bydd 'na wellhad iddo rhyw dro.

"Mae'n poeni fi braidd na fydda' i'n gweld y byd wedi mynd 'nôl i fel oedd o."

Ffynhonnell y llun, Age Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp o artistiaid wedi helpu i greu ffilm unigryw yn crynhoi hanesion y preswylwyr

Mae'r ansicrwydd yn parhau, ond cadw pawb yn ddiogel yw'r flaenoriaeth yn ôl Helen Ombler Williams.

"Dwi'm yn meddwl eith pethau yn ôl i sut oedd hi cynt - lle'r oedd teuluoedd yn dod i mewn amser paned pnawn a chael teisen a phaned efo'r preswylwyr.

"Dwi'm yn gweld hynny'n digwydd am yn hir eto, os wneith o ailddechrau.

"Mae'n bechod achos mae'r drws wastad 'di bod yn agored i bobl ddod mewn ac allan. Mae'n od i beidio gweld pobl yn y cartre'.

"Ond 'da ni'n trio cadw pawb yn saff a gwneud y gorau ohoni."

Hyd yma mae preswylwyr cartrefi gofal ym Môn, Dinbych-y-pysgod, Yr Wyddgrug, Porthcawl a Phort Talbot wedi cael eu casglu ar gyfer y prosiect.

Trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Age Cymru yn gobeithio ehangu ar y gwaith a holi preswylwyr mewn rhagor o gartrefi ar draws y wlad.