£48m i helpu gofal cymdeithasol i adfer o'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gofal iechydFfynhonnell y llun, SPL

Bydd £48m yn cael ei roi i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru i adfer o effeithiau'r pandemig.

Dywedodd y dirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol mai'r nod ydy mynd i'r afael â'r "argyfwng" sy'n wynebu'r sector.

Ond mae galwadau o hyd am gynllun mwy hirdymor er mwyn ariannu gofal cymdeithasol yn well.

Yn ôl y dirprwy weinidog Julie Morgan mae angen mwy o fanylion gan Lywodraeth y DU.

Cyhoeddodd Ms Morgan ddydd Mawrth y bydd £40m yn cael ei roi i awdurdodau lleol, tra bydd £8m ychwanegol yn ariannu blaenoriaethau eraill, fel ymestyn y gronfa gefnogaeth i ofalwyr.

Dywedodd fod y diwydiant yn wynebu "pwysau sylweddol" o ganlyniad i'r pandemig a bod y gweithlu "wedi blino'n lân ar ôl gweithio mor galed am gyhyd".

Galw am gynllun hirdymor

Mae'r arian wedi cael ei groesawu yn gyffredinol, ond mae pryderon yn parhau am sut y bydd gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu yn y dyfodol.

Dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes fod dros 1,000 o bobl sy'n ddigon iach i adael ysbytai yn dal i ddisgwyl am becynnau cartrefi gofal er mwyn gadael yr ysbyty.

"Mae arweinwyr y GIG yn gwneud popeth o fewn eu gallu i roi datrysiadau tymor byr ar waith, ond mae 'na angen brys am gynllun i fynd i'r afael â'r problemau tymor hir," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie Morgan mai nod yr arian ydy mynd i'r afael â'r "argyfwng" sy'n wynebu'r sector

Wrth siarad gyda'r wasg ddydd Mawrth fe wnaeth Ms Morgan gydnabod bod argyfwng o fewn y sector ar hyn o bryd, a bod angen cynllun hirdymor.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn debygol o dderbyn £600m y flwyddyn oherwydd cynlluniau gwariant yn Lloegr ond na fyddai'n derbyn y ffigwr penodol nes i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei gynllun gwariant.

"Ni fydd yr arian yma ar gael yn syth felly rydyn ni eisiau cymryd ein hamser er mwyn asesu'r gwahanol opsiynau ar gyfer cynllun tymor hir ar gyfer gofal cymdeithasol," meddai.

Cydnabod diffyg staff

Dywedodd y byddai'r £48m yn mynd i'r afael â'r pwysau sydd ar y diwydiant a bod ymgyrch recriwtio ar waith er mwyn ceisio cynyddu nifer y staff.

"Rydyn ni'n ei chael hi'n anodd gyda phobl yn gadael y sector nawr fod lletygarwch a masnach yn ailagor, a gan fod cyflogau'n isel yn y sector gofal cymdeithasol, mae pobl yn cael eu denu i ddiwydiannau eraill," meddai.

"Felly mae'n gyfnod anodd ond rydyn ni wedi ymrwymo i dalu'r gwir gyflog byw i bob gweithiwr gofal cymdeithasol."