Disgwyl penderfyniad ynghylch pasbortau brechu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl cadarnhad ddydd Gwener a fydd angen yn gyfreithlon i bobl gael pasbort brechu cyn cael mynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr ar draws Cymru.
Mae gweinidogion wedi bod yn ystyried hyn fel rhan o'r adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau coronafeirws.
Nid yw'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi diystyru system orfodol debyg i'r un sydd ar y gweill yn Yr Alban, ac a allai gael ei gyflwyno yn Lloegr.
Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd wedi mynegi pryder, ac wedi galw am beidio gweithredu cynllun o'r fath.
Does dim disgwyl unrhyw newidiadau eraill i reolau Cymru, gan i'r mwyafrif gael eu dileu dros yr haf.
Beth ydy diffiniad 'clwb nos'?
Yn y gorffennol mae Mr Drakeford - a fydd yn cynnal cynhadledd newyddion ddydd Gwener - wedi mynegi amheuaeth am faterion cyfreithiol, moesegol ac ymarferol gyda phasbortau brechu.
Ond dywedodd hefyd y gallai gael ei berswadio am yr angen i gael cynllun o'r fath pe byddai'r buddiannau iechyd cyhoeddus yn fwy na'r anfanteision.
Er hynny mae wedi dweud na fydd angen pasbort brechu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Yn Yr Alban bydd pobl angen profi eu bod wedi cael eu brechu'n llawn cyn cael mynd i glybiau nos a nifer o ddigwyddiadau mawr o 1 Hydref ymlaen.
Un o'r trafferthion gyda'r polisi yno yw dadlau am ddiffiniad 'clwb nos', ac mae gweinidogion yn dal i geisio datrys yr anghydfod.
Dywedodd Benjamin Newby o'r Gymdeithas Diwydiannau Gyda'r Nos (NTIA) nad oes diffiniad cyffredin sy'n gwahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o gyrchfannau nos.
Mewn llythyr at Mr Drakeford dywedodd: "Heb feini prawf i fedru adnabod 'clybiau nos' a gydag awdurdodau lleol yn gwahaniaethu gydag amodau trwyddedu, byddai unrhyw gynllun am basbort brechu yn anochel yn fympwyol.
"Fel cynrychiolwyr economi'r nos yng Nghymru, rydym yn poeni y byddai mesurau o'r fath yn anodd iawn i'w gweithredu, yn cael effaith niweidiol iawn ar fusnesau ac yn arwain at rai o'r busnesau sydd wedi diodde' waethaf yn colli tir ar y rhai tebyg yn Lloegr a hynny heb fawr o fudd i iechyd cyhoeddus."
'Gwrthwynebiad clir'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies fod ei blaid "yn glir yn ein gwrthwynebiad o basbortau brechu, ac fe fyddwn yn annog gweinidogion Llafur i ddileu unrhyw gynlluniau sydd ganddyn nhw i'w cyflwyno".
Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth yn credu y dylid gwahardd pasbortau brechu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, "ond os yw'r dystiolaeth yn dangos eu bod yn gallu cyfyngu ar ymlediad [y feirws] mewn rhai lleoliadau y mae pobl yn dewis eu mynychu yna mae'n gwneud synnwyr i'w hystyried".
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Mae pasbortau brechu yn tarfu ar ein hawliau sifil, ac fe fyddan nhw'n eithrio cymunedau du ac ethnig yn anghymesur - cymunedau sydd, hyd yma, wedi bod yn llai parod nag eraill i gael eu brechu".
Mae tystysgrifau brechu eisoes ar gael yng Nghymru drwy wefan y GIG, ond nid drwy ap y GIG, sy'n darparu prawf o frechu yn Lloegr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021
- Cyhoeddwyd11 Medi 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021