Adran Dau: Casnewydd 2-1 Walsall

  • Cyhoeddwyd
James ClarkeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd goliau cynnar a hwyr i Gasnewydd yn erbyn Walsall yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm gynghrair.

Fe aeth yr Alltudion ar y blaen ar ôl dim ond naw munud o flaen eu torf gartref yn Rodney Parade diolch i gôl Mickey Demetriou.

Methodd Matty Dolan gic o'r smotyn ar ddiwedd ar yr hanner cyntaf fyddai wedi dyblu eu mantais, ac fe ddaeth hynny yn ôl i'w brathu wrth i Tyrese Shade unioni'r sgôr eiliadau cyn yr egwyl.

Serch hynny, Casnewydd gafodd y gair olaf gyda James Clarke yn rhwydo yn erbyn ei gyn-glwb i sicrhau'r tri phwynt i'r Alltudion gyda thri munud i fynd.

Pynciau cysylltiedig