Statws bwyd gwarchodedig i gig oen mynyddoedd Cambria

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
oenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cig oen mynyddoedd Cambria wedi derbyn Statws Dynodiad Daearyddol y DU.

Mae'r statws yn debyg i'r hyn sy'n gwarchod nwyddau fel caws halloumi a siampên yn yr Undeb Ewropeaidd ond mae'n berthnasol i'r DU yn unig ac mae'n sicrhau tarddiad a dilysrwydd y cynnyrch.

Fis diwethaf fe wnaeth Cig Oen Morfa Heli Gŵyr dderbyn y statws.

Yr hafod a'r hendre

Mae'r cig oen o fynyddoedd Pumlumon, Elenydd ac ucheldiroedd eraill canolbarth Cymru i lawr at y Mynydd Du yn gynnyrch tymhorol.

Ar ôl treulio gaeaf yn y dyffryn, mae'r ŵyn yn cael eu hanfon yn yr haf i bori yn y bryniau a chredir bod y glaswellt a'r perlysiau amrywiol yn cyfrannu at ei flas ysgafn.

Mae'r ŵyn yn cael eu cynhyrchu'n gyfan gwbl o famogiaid sydd naill ai'n ddefaid Mynydd Cymreig yn bennaf neu o fridiau mynydd brodorol traddodiadol eraill o Gymru.

Wrth ymateb i'r statws newydd dywedodd Huw Davies o Fferm Aberdauddwr ac aelod o grŵp y cynhyrchwyr: "Rydym yn falch iawn o ennill y statws Dynodiad Daearyddol hwn yn y DU - mae'n cydnabod cynnyrch unigryw y bryniau.

"Rwy'n gobeithio y bydd y defnyddiwr yn gallu mwynhau Cig Oen Mynyddoedd Cambria am flynyddoedd i ddod."

'Newyddion gwych'

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae hyn yn newyddion gwych ac rwyf am longyfarch y grŵp o gynhyrchwyr ar eu llwyddiant a'u croesawu i deulu Dynodiad Daearyddol Cymru.

"Mae eu cynnyrch gwych yn enghraifft arall o'r bwyd a diod eiconig sydd gan Gymru i'w gynnig.

"Mae nifer o gynhyrchion bwyd a diod cyffrous eraill yng Nghymru yn gwneud cais am statws Dynodiad Daearyddol y DU ar hyn o bryd ac rwy'n edrych ymlaen at weld teulu Dynodiad Daearyddol Cymru yn parhau i dyfu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cig oen o forfeydd heli Gŵyr yn gynnyrch tymhorol sydd ar gael o fis Mehefin tan ddiwedd mis Rhagfyr

Sefydlwyd cynllun Dynodiadau Daearyddol y DU (GI) i ddisodli cynllun blaenorol yr UE, a'r nod yw diogelu cynnyrch arbennig o ranbarth penodol rhag cael ei danseilio gan gopïau o fannau eraill yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Ni fydd y statws yn diogelu cynnyrch rhag cael ei gopïo mewn gwledydd Ewropeaidd, ond mae'n bosib i gynhyrchwyr wneud cais am statws warchodedig ar wahân yn yr UE.

Pynciau cysylltiedig