Statws bwyd gwarchodedig i gig oen 'unigryw' o Gŵyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Defaid yn poriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cig oen o forfeydd heli Gŵyr yn gynnyrch tymhorol sydd ar gael o fis Mehefin tan ddiwedd mis Rhagfyr

Mae cig oen o forfeydd heli de Cymru wedi derbyn statws bwyd gwarchodedig o dan gynllun newydd y Deyrnas Unedig.

Mae'r cig oen o Gŵyr - sy'n pori ar suran, llyrlys a lafant y môr - y cynnyrch cyntaf o Brydain i dderbyn statws gwarchodedig ers gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Sefydlwyd cynllun Dynodiadau Daearyddol y DU (GI) i ddisodli cynllun blaenorol yr UE, a'r nod yw diogelu cynnyrch arbennig o ranbarth penodol rhag cael ei danseilio gan gopïau o fannau eraill yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Ni fydd y statws yn diogelu cynnyrch rhag cael ei gopïo mewn gwledydd Ewropeaidd, ond mae'n bosib i gynhyrchwyr wneud cais am statws warchodedig ar wahân yn yr UE.

Erbyn hyn mae yna 17 o eitemau ar restr GI Cymru gan gynnwys Halen Môn, Ham Caerfyrddin a Chaws Caerffili.

'Blas gwahanol iawn'

Mae'r brodyr Dan a Will Pritchard o Fferm Castell Weobley y drydedd genhedlaeth i gynhyrchu cig oen ar forfa heli Gŵyr, gan fagu tua 1,000 o ddefaid bob blwyddyn.

Dywedon nhw fod llystyfiant penodol ar Benrhyn Gŵyr yn creu cig gyda blas "gwahanol iawn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn hanesyddol, mae morfeydd heli gogledd Gŵyr wedi cynnal miloedd o ddefaid ac ar hyn o bryd maent yn cael eu pori gan 3,500 o ŵyn y flwyddyn

"Mae'r cig oen ar y fferm yn unigryw yng Nghymru a Prydain achos mae defaid ac ŵyn yn byw ar y morfa ac mae'n le arbennig iawn; mae gyda fe laswellt gwahanol iawn i gae neu mynydd ac mae blas y cig yn arbennig," meddai Will.

"'Da ni'n brysur iawn ar y foment gyda chwsmeriaid, tai bwytai a thafarndai yn yr ardal.

"Dwi 'chydig bach yn nerfus, ond dwi'n meddwl bod [y statws] yn wych."

Yn hanesyddol, mae morfeydd heli gogledd Gŵyr wedi cynnal miloedd o ddefaid ac ar hyn o bryd maent yn cael eu pori gan 3,500 o ŵyn y flwyddyn.

Mae'n gynnyrch tymhorol sydd ar gael o fis Mehefin tan ddiwedd mis Rhagfyr.

'Gwych'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Mae'n wych gweld cig oen morfa heli Gŵyr yn cael ei ychwanegu ar y rhestr o gynhyrchion eiconig o Gymru.

"Mae gwarantu dilysrwydd bwyd a diod o Gymru yn helpu i gadarnhau ein henw da am ansawdd yma gartref ond hefyd mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd," meddai.

Ers gadael yr UE, mae Llywodraeth y DU wedi dod yn gyfrifol am sicrhau bod cynhyrchion diwylliannol yn cael eu hamddiffyn.

"Dywedodd Gweinidog Bwyd y DU, Victoria Prentis, bod GIs yn "gwarantu ansawdd a rhagoriaeth i bobl sy'n hoff o fwyd gartref ac o amgylch y byd".