Adran Dau: Barrow 2-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Barrow enillodd gêm Adran Dau nos Wener yn erbyn Casnewydd, yn sgorio dau gôl yn yr ail hanner.
Bu Casnewydd ar y blaen yn hanner gyntaf y gêm, gyda Finn Azaz yn sgorio'i gôl gyntaf i'r clwb o fewn y deg munud cyntaf.
Ond yn yr ail hanner sgoriodd Josh Kay i Barrow, yn dod â'r ddau dîm yn gyfartal, cyn i Josh Gordon selio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref gyda 12 munud i fynd.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Barrow yn symud lan i wythfed safle, tra bod Casnewydd yn symud lawr i 14eg safle yn Adran Dau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021