Clip archif: Betty Campbell

  • Cyhoeddwyd

Mae cerflun i gofio'r brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru wedi cael ei ddadorchuddio ynghanol Caerdydd ddydd Mercher, 29 Medi.

Cafodd enw Betty Campbell ei ddewis yn dilyn pleidlais gyhoeddus ddwy flynedd yn ôl. Bydd gwaith y cerflunydd o Sheffield, Eve Shepherd, nawr yn sefyll yn Sgwâr Canolog y brifddinas.

Roedd Betty Campbell wedi'i geni a'i magu yn ardal y dociau, Caerdydd ac fe arhosodd yn Nhrebiwt trwy gydol ei hoes. Bu'n hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol ei chenedl trwy gydol ei hoes, a bu'n rhaidd iddi ymladd yn erbyn hiliaeth er mwyn bod yn athrawes.

Gwyliwch archif o Betty Campbell, a dadorchuddiuad y cerflun sy'n deyrnged iddi:

Disgrifiad,

Gwyliwch archif o Betty Campbell a dadorchuddiad cerflun iddi

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig