Pryderon am greu ysgol Gymraeg fawr yn y Rhondda

  • Cyhoeddwyd
YCR

Mae 'na ffrae'n corddi yn Rhondda Cynon Taf ynglŷn â chynlluniau i sefydlu ysgol Gymraeg fawr ar gyfer plant rhwng 3 ac 19 oed.

Byddai'n golygu moderneiddio Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn y Cymer neu adeiladu ysgol newydd ar safle gwahanol.

Mae 'na rai yn lleol yn poeni am faint posib yr ysgol, ac am ddyfodol ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal.

Ond yn ôl Cyngor Rhondda Cynon Taf, y nod yw creu mwy o le i ddisgyblion gael addysg Gymraeg.

Bydd cabinet yr awdurdod yn trafod y mater ar 4 Hydref gydag ymgynghoriad i ddilyn.

Mae nifer o bobl yn y Rhondda yn gytûn bod adeiladau'r ysgol bresennol mewn cyflwr gwael a bod angen gweithredu.

Mae'r cynllun yn rhan o fuddsoddiad gwerth £85m yr awdurdod mewn ysgolion a cholegau.

Mae Plaid Cymru'n croesawu'r buddsoddiad mewn ysgol newydd, ond maen nhw'n codi cwestiynau am faint yr ysgol a thraffig.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Cox o Gyngor Rhondda Cynon Taf: "Y broblem sydd gyda'r cynlluniau ar hyn o bryd fel dwi'n gweld yw maen nhw'n sôn am ysgol fawr ac mae 'na rywfaint o bryderon ynglŷn ag effeithiolrwydd hwnna i addysg plant fan hyn, ac hefyd yr effaith mae hwnna am gael ar drafnidiaeth yn lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Yr effaith ar ysgolion Cymraeg eraill sy'n poeni Rachel Stephens

Mae Rachel Stephens yn gyn ddisgybl yn yr ysgol ac yn poeni am y cynigion.

"Ble bynnag mae fe yn y Rhondda mae e am gael effaith ar o leiaf un ysgol gynradd, a hwnna sy'n pryderu fi ar hyn o bryd yw bod llai o ddisgyblion am fynd i'r ysgolion cynradd sydd 'da ni nawr a bydd yr ysgolion wedyn yn cau."

'Creu mwy o le'

Yn ôl yr Aelod o'r Senedd dros y blaid Lafur yn y Rhondda, mae "gwir angen" adeilad newydd ar Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.

Dywedodd Buffy Williams AS bod hynny'n "hollbwysig" ar gyfer disgyblion, staff a rhieni.

Ychwanegodd: "Mae arweinydd y cyngor wedi fy sicrhau na fydd yr un o'r pump o ysgolion [cynradd] Cymraeg yn cau i wneud lle ar gyfer yr ysgol newydd. Fydd hynny'n sicr ddim yn digwydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Nod y cynigion ydy creu mwy o le i ddisgyblion o fewn y sector cyfrwng Cymraeg a galluogi mwy o dwf yn nifer y dysgwyr sy'n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

"Dyw'r cynnig ar gyfer Ysgol Cwm Rhondda ddim yn ddibynnol ar gau ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg presennol a dydy lleoliad yr ysgol newydd heb ei gadarnhau."

Pynciau cysylltiedig