'Mae'r pandemig yn sbarduno mwy o fentergarwch'
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos bod y pandemig yn sbarduno mwy o fentergarwch, yn ôl Banc Datblygu Cymru.
Dywed cyfarwyddwr buddsoddi'r banc, Rhian Elston bod "cynnydd trawiadol o ran unigolion sy'n mentro wedi newid yn eu hamgylchiadau personol ac yn arferion prynu cwsmeriaid i ddod yn hunan-gyflogedig".
Yn ystod 2020 fe gafodd y banc y nifer uchaf erioed o geisiadau am gymorth gan bobl i sefydlu busnes newydd, gyda llawer o'r rheiny o fewn y sectorau lletygarwch a manwerthu ac â phwyslais ar fyw bywydau iachach.
Mae'r duedd yma wedi parhau yn 2021, gyda 50% yn uwch o bobl yn derbyn benthyciadau meicro i sefydlu busnes.
Dywed Llywodraeth Cymru bod 1,452 o fusnesau wedi eu sefydlu ers dechrau'r pandemig ar ôl cael cymorth ganddynt.
"Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi cymryd camau pwysig i warchod swyddi a darparu cyfleoedd newydd i unigolion trwy hunan-gyflogaeth," meddai llefarydd.
"Ochr yn ochr â phecyn cefnogaeth heb ei ail i fusnesau, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfleoedd i ailhyfforddi ac uwchraddio sgiliau mewn mannau newydd ble mae twf mawr."
Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi buddsoddi bron i £40m, gan gynnwys £1.2m i helpu pobl anabl, pobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, merched a phobl ifanc sefydlu eu busnesau eu hunain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021