Pêl-droediwr Cymru, David Brooks wedi cael diagnosis canser
- Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr pêl-droed Cymru a Bournemouth David Brooks wedi datgelu ei fod wedi derbyn diagnosis o ganser Hodgkin Lymphoma.
Fe ddywedodd y chwaraewr canol cae 24 oed bod ganddo'r clefyd mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae Brooks wedi ennill 21 o gapiau i Gymru ers iddo chwarae ei gêm gyntaf i'w wlad yn 2017.
Fe dynnodd yn ôl o'r garfan ddiwethaf ar gyfer y gemau yn erbyn y Weriniaeth Siec ac Estonia gyda salwch.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae hon yn neges anodd i mi ysgrifennu," meddai Brooks yn y datganiad.
"Dwi wedi derbyn diagnosis Hodgkin Lymphoma Cyfnod 2 ac fe fyddai'n dechrau triniaeth yr wythnos nesaf.
"Er bod hyn wedi dod fel sioc i fi a fy nheulu, mae'r prognosis yn un positif a dwi'n hyderus y bydda i'n gwella ac yn ôl yn chwarae mor fuan â phosib.
"Dwi'n deall y bydd sylw a diddordeb gan y wasg, hoffwn ofyn am breifatrwydd yn y misoedd nesaf, a byddaf yn rhannu'r diweddaraf am fy nghyflwr pan mae modd i mi wneud.
"Yn y cyfamser, diolch i bawb am yr holl negeseuon a'r cymorth - mae'n golygu gymaint."
"Dwi'n edrych ymlaen at weld pawb eto a chwarae'r gamp dwi'n ei charu yn fuan."