4,000 o ganlyniadau PCR anghywir posib yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Fe allai tua 4,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu hysbysu ar gam bod eu profion Covid-19 yn negatif yn sgil camgymeriadau mewn labordy preifat.
Mae ymchwiliad wedi darganfod bod tua 43,000 o ganlyniadau yng Nghymru a Lloegr wedi eu heffeithio gan faterion technegol yn y labordy yn Wolverhampton.
Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan mai yn ardaloedd Cwm Taf Morgannwg a Gwent roedd mwyafrif y canlyniadau anghywir sy'n berthnasol i bobl yng Nghymru.
Bydd rhai o'r unigolion a gafodd ganlyniadau negatif yn cael cais i gymryd prawf newydd.
Cafodd y canlyniadau PCR anghywir eu rhoi rhwng 8 Medi a 12 Hydref, ac roedd y mwyafrif yn ne orllewin Lloegr. Dywedodd Ms Morgan fod Llywodraeth Cymru wedi cael adroddiadau gan fyrddau iechyd wythnos diwethaf fod "nifer uwch na'r disgwyl o brofion llif unffordd positif wedi arwain at ganlyniadau profion PCR negatif".
Yn ôl Ms Morgan bod dim effaith ar ganolfan brofi yng Nghasnewydd sy'n prosesu mwyafrif y samplau yng Nghymru.
Dywedodd y bydd gwasanaeth olrhain y GIG yn cysylltu â phawb a gafodd ganlyniad negatif gan y labordy o 4 Hydref ymlaen ac yn gofyn iddyn nhw gymryd prawf arall.
Bydd yna gyngor hefyd i gysylltiadau agos sy'n symptomatig hunan-ynysu a threfnu prawf PCR.
"Fy mhryder uniongyrchol yw'r wybodaeth a'r cymorth i drigolion Cymru yr effeithir arnynt," meddai Ms Morgan.
"Rwyf wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol i'r byrddau iechyd yr effeithir arnynt yn ychwanegol at negeseuon cyfathrebu UKHSA [UK Health Security Agency] .
"Byddant hefyd yn asesu effaith bosibl y digwyddiad hwn ar gyfraddau achosion ac adroddiadau epidemioleg i Gymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021