Adran Dau: Caerwysg 2-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Gasnewydd setlo am gêm gyfartal er iddyn nhw fynd ar y blaen ddwywaith ar eu hymweliad i Gaerwysg.
Daeth gôl gyntaf y gêm wedi dim ond 12 munud wrth i ergyd Robbie Willmott o ymyl y cwrt cosbi canfod cefn y rhwyd yn erbyn y tîm y bu ar fenthyg gyda nhw'r tymor diwethaf.
Roedd Caerwysg yn gyfartal ddeng munud yn ddiweddarach diolch i Matt Jay, cyn i Courtney Baker-Richardson roi Casnewydd yn ôl ar y blaen wrth i'w ergyd sleifio heibio i Cameron Dawson yn y gôl.
Ond ar ôl 55 munud roedd y tîm cartref yn gyfartal unwaith eto, wrth i Samuel Nombe sgorio ei bumed gôl mewn pum gêm gydag ergyd i gornel isaf y rhwyd.
Mae'r canlyniad yn gadael Casnewydd yn 14eg yn nhabl Adran Dau, dau bwynt i ffwrdd o'r gemau ail gyfle.