Gollwng cyhuddiad rheolau Covid yn erbyn McEvoy

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neil McEvoy wedi cynrychioli Plaid Cymru a Propel fel AS

Mae cyhuddiad o dorri cyfyngiadau coronafeirws yn gynharach eleni yn erbyn y cyn-Aelod o'r Senedd, Neil McEvoy, wedi cael ei ollwng yn Llys Ynadon Caerdydd.

Roedd Mr McEvoy, a oedd wedi cynrychioli Plaid Cymru a Propel fel AS cyn colli ei sedd ym mis Mai, wedi gwadu'r honiad.

Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi "paratoi yn ofnadwy" ar gyfer yr achos meddai'r barnwr rhanbarthol Stephen Harmes.

Roedd Mr McEvoy wedi'i gyhuddo o ddosbarthu taflenni etholiadol yng Nghaerdydd ar Chwefror 15, a oedd ar y pryd wedi'i wahardd o dan ddeddfwriaeth coronafeirws.

Gan ollwng yr achos, beirniadodd Mr Harmes Wasanaeth Erlyn y Goron am newid manylion y cyhuddiad i ymwneud ag ardal wahanol yng Nghaerdydd ar ddiwrnod yr achos.

Pwysleisiodd hefyd fod y gwasanaeth wedi methu â darparu darnau sylweddol o dystiolaeth i Mr McEvoy mewn digon o amser i ganiatáu iddo baratoi ar gyfer yr achos.

Gwahoddwyd Mr McEvoy i wrthod y dystiolaeth, ar y sail nad oedd y tystion yn bresennol yn y llys.

'Gwarth'

Dywedodd Mr Harmes nad oedd yr achos wedi ei gymryd yn ddigon difrifol gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac roedd yn cwestiynu a oedd unrhyw obaith realistig o euogfarn.

"Cawsoch y lleoliad anghywir a chyflwynwyd y dystiolaeth iddo yn hwyr, felly sut ar y ddaear y mae i fod i ymateb?" meddai.

Ychwanegodd nad oedd proffil uchel Mr McEvoy wedi cael unrhyw effaith ar ei benderfyniad.

Mewn fideo a bostiwyd ar gyfryngau cymdeithasol, disgrifiodd Mr McEvoy ymddygiad Wasanaeth Erlyn y Goron fel "gwarth".

Pynciau cysylltiedig