60% yn fwy yn cael eu haddysgu adref ers y pandemig
- Cyhoeddwyd
Gyda chynnydd yn y nifer sy'n addysgu plant gartref yng Nghymru, dywed un fam bod cyfnod y pandemig wedi rhoi "hyder" iddi i fwrw ati gyda'i merch.
Mae nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref wedi cynyddu bron i 60% dros y ddwy flynedd diwethaf, yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Elin Lloyd o Gaerfyrddin bod addysgu Imogen, 11 oed, gartref wedi bod "ar y cardie ers blynyddoedd ond Covid na'th roi'r cyfle i ni weld bo ni'n gallu neud e".
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 4,002 o ddisgyblion yng Nghymru rhwng pump a 15 oed yn cael eu haddysgu gartref - 2,517 oedd y ffigwr yn 2018-19.
Ond mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu dros sawl blwyddyn - gyda llai na 900 o ddisgyblion yn cael eu haddysg gartref ddegawd yn ôl.
Ers i Imogen fod yn dair oed mae hi wedi cael patrwm hyblyg yn yr ysgol - yno am bedwar diwrnod yr wythnos ac adref yn cael addysg am y pumed.
Ond fe wnaeth cyfnod Covid newid y sefyllfa i Elin ac ers mis Medi mae Imogen yn cael ei haddysgu gartref yn llawn amser.
"I lot o bobl o'dd hi'n amser eitha heriol am wahanol resymau ond gyda'r addysg i ni, o'dd e'n hwyl a naethon ni ddysgu lot am ein gilydd," meddai Elin.
"Mae'n benderfyniad mawr yn dydy i ddysgu plentyn yn llawn amser? Nath e rhoi tipyn bach o hyder i fi - i wybod bo fi'n gallu 'neud hwn ac mae'n rhywbeth fi'n gallu cynnig i Imogen petai hi moyn."
Dywedodd Elin ei bod hi ac Imogen yn edrych ar thema benodol bob mis, a'i bod yn gwau mathemateg, gwyddoniaeth, hanes a'r celfyddydau mewn i'r pynciau.
Yr unig beth sy'n anodd, medd Elin, yw trefnu a rheoli amser, paratoi ei gwaith ei hun a gwaith Imogen.
"I fi fel mam sengl yn addysgu merch gartref - mae'r amser pryd dwi'n gweithio yn fwy heriol.
"Dwi'n hunangyflogedig, yn athrawes delyn felly dwi'n gallu gwneud i'r gwaith ffitio rownd beth sy' gyda ni 'mlaen."
'Dysgu adre' yn hwyl'
Mae Imogen wrth ei bodd nad yw'n gorfod dilyn amserlen gaeth.
"Does dim rhaid i chi 'neud yr un pethau bob dydd," meddai.
"Yr unig beth dwi'n 'neud bob dydd yw ymarfer y clarinet a'r piano am hanner awr."
Mae Imogen hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys caiacio a dringo.
Mae hefyd yn gwneud sesiynau mathemateg a gwyddoniaeth yn Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ariannu gwasanaethau addysg ar gyfer teuluoedd sy'n addysgu gartref yn y gerddi.
Mae gan Sir Gâr y niferoedd uchaf o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref - 402. Ddwy flynedd ynghynt 284 oedd wedi eu cofnodi.
Mae hynny'n uwch na Chaerdydd gyda 358 a Sir Benfro gyda 262.
Ceredigion sydd â'r gyfradd uchaf o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref, sef 32 fesul 1,000.
Yn ôl y cynghorydd Glynog Davies, aelod o'r bwrdd gweithredol dros addysg a gwasanaethau plant yn Cyngor Sir Caerfyrddin, mae'r awdurdod yn darparu cynghorwyr i helpu i gefnogi teuluoedd sy'n addysgu gartref.
Dywedodd fod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio "i ariannu nifer o fentrau gan gynnwys tocynnau teulu i'r rhai sy'n addysgu gartref ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a mynediad i'w gweithdai".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2019