Adran Dau: Casnewydd 5-0 Stevenage

  • Cyhoeddwyd
Casnewydd yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Casnewydd yn dathlu

Roedd Casnewydd yn fuddugol yn eu gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Stevenage - eu hail gêm o dan eu rheolwr newydd James Rowberry.

Sgoriodd Casnewydd tair gôl yn yr hanner cyntaf, dwy ohonyn nhw gan Dom Telford, ac un gan Courtney Baker-Richardson.

Aeth Telford ymlaen i sgorio'i drydedd gôl yn gynnar yn yr ail hanner, cyn i Finn Azaz saethu o bell i selio'r fuddugoliaeth i'r tîm.

Mae Casnewydd yn symud i fyny i'r wythfed safle yn y gynghrair.