Adran Dau: Hartlepool 1-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd bellach yn y pumed safle yn Adran Dau wedi eu buddugoliaeth yn Hartlepool nos Wener.
Roedd hi'n argoeli i fod yn gêm agos o'r cychwyn - y timau yn agosaf at ei gilydd yn y gynghrair a gyda'r un faint o bwyntiau.
Agorodd y gêm gyda'r tîm cartref yn ymosodol a Chasnewydd yn ildio cornel o fewn y funud gyntaf. Ond gydag amser daeth Casnewydd fwyfwy i mewn i'r gêm a nhw a gafodd yr ergydion gorau at y gôl.
Wedi hanner awr o chwarae daeth croesiad o droed Mathew Dolan a chododd Courtney Baker-Richardson yng nghanol y blwch cosb a phenio'r bêl i'r rhwyd i roi'r Alltudion ar y blaen.
Daeth Hartlepool allan o'r stafell newid ar gyfer yr ail hanner yn benderfynol o unioni'r sgôr, ond heb lwyddiant nes i Mickey Demebriou dynnu Luke Molyneux i lawr ryw bum llath ar hugain o gôl Casnewydd.
Cafodd gerdyn melyn gan y dyfarnwr, ac roedd gan Hartlepool gic gosb mewn man delfrydol. David Ferguson gymerodd y gic ac fe'i gyrrodd i ben uchaf ochr dde y rhwyd i gymeradwyaeth rymus y chwe mil o gefnogwyr. Roedd hi'n gyfartal unwaith yn rhagor.
Nid oedd cyfaddawd gan yr un o'r ddau dîm wedyn - roedd Hartlepool yn llygadu tri phwynt, ond nid oedd Casnewydd yn ildio dim.
Gyda munud o amser ychwanegol wedi ei chwarae fe dawelodd Casnewydd y dyrfa wrth i Dominic Telford benio'r bêl i'r rhwyd.
Hyd heno doedd Hartlepool ddim wedi colli gartref y tymor yma.