Un o sêr Cymru yn Euro 2016, Joe Ledley, yn ymddeol o bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Joe LedleyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Ledley, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol.

Chwaraeodd Ledley, 34, bron i 550 o gemau clwb, gan sgorio 69 o goliau mewn gyrfa a barodd am 17 o flynyddoedd.

Mae hefyd wedi ennill 77 o gapiau dros Gymru, gan gynnwys fel rhan allweddol o'r tîm ymhob gêm yn Euro 2016.

Dechreuodd ei yrfa gyda Chaerdydd, gan chwarae dros 250 o weithiau i'r Adar Gleision, yn cynnwys yn rowndiau terfynol Cwpan yr FA a Gemau Ail-gyfle y Bencampwriaeth.

Dywedodd ei fod wedi profi "yr uchelfannau uchaf, a'r cyfnodau isaf" gyda'r clwb "sydd mor agos at fy nghalon".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ledley'n cael ei gofio am ei bersonoliaeth oddi ar y cae yn ogystal â'i sgiliau gyda'r bêl

Symudodd i Celtic ac enillon nhw Uwchgynghrair Yr Alban ar dri achlysur, a Chwpan Yr Alban.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, chwaraeodd dros Crystal Palace, Derby, Charlton, Newcastle Jets a Chasnewydd.

Dywedodd Ledley ei fod wedi cael "siwrne anhygoel" ond mai nawr yw'r amser i roi'r gorau iddi.

Chwaraeodd am y tro diwethaf i Gymru yn 2018, ac ychwanegodd na fyddai "byth yn gallu dychmygu ymddeol o bêl-droed rhyngwladol".

"Bydda i ar gael am byth!"