Adran Dau: Casnewydd 1-2 Swindon

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi disgyn o safleoedd y gemau ail gyfle yn Adran Dau wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Swindon yn Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Bu'n rhaid disgwyl 73 munud am gôl, ond pan ddigwyddodd hynny daeth dwy o fewn dau funud.

Yn gyntaf aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi i beniad Ellis Iandolo wyro oddi ar Finn Azaz i'w rwyd ei hun.

Ond o fewn eiliadau roedd Dom Telford wedi ei gwneud yn gyfartal unwaith eto gyda gôl i'r Alltudion o groesiad Cameron Norman.

Roedd hi'n edrych fel pe bai'r gêm ar fin gorffen yn gyfartal, cyn i Jack Payne sgorio'n hwyr i ennill yr ornest i Swindon.