Adran Dau: Colchester 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Dominic Telford yn dathlu rhoi Casnewydd ar y blaen
Bu'n rhaid i Gasnewydd fodloni ar bwynt oddi cartref yn erbyn Colchester nos Wener er iddyn nhw fod ar y blaen am ran helaeth o'r gêm.
Fe rwydodd Dominic Telford wedi 36 o funudau gydag ergyd droed chwith o du allan i'r cwrt i dop cornel chwith y rhwyd - cyfle a gafodd ei greu gan James Clarke.
Ond fe wnaeth Freddie Sears unioni'r sgôr i'r tîm cartref wedi 78 o funudau.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn parhau yn nawfed safle Adran Dau gyda 28 o bwyntiau - yr un nifer â Leyton Orient sydd â gwahaniaeth goliau sylweddol well ac un pwynt yn is na safleoedd y gemau ail gyfle.