£12m i atal 'sgramblo' ben bore am apwyntiad meddyg

  • Cyhoeddwyd
Dynes ar y ffonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud wrth feddygon ei bod yn dymuno "dod â sgramblo'r bore i ben" i gleifion sydd yn aml yn gorfod ffonio "dro ar ôl tro" i drefnu apwyntiad wrth i feddygfeydd agor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cyllid ychwanegol a newidiadau i gytundebau meddygon teulu sy'n anelu at wella a chynyddu capasiti'r system apwyntiadau.

Ond yn ôl y corff sy'n cynrychioli meddygon teulu mae meddygfeydd dan bwysau "enfawr" a does dim digon o feddygon i ateb y galw am apwyntiadau.

Daw'r rhybudd yn dynn ar sodlau apêl i staff iechyd o fewn y GIG a thu hwnt helpu rhoi'r brechlyn atgyfnerthu i gymaint o bobl â phosib yn sgil yr amrywiolyn Omicron.

'Rhaid deall maint y pwysau'

"Mae meddygon teulu a'u timau eisiau darparu'r mynediad gorau bosib i'w cleifion - yn aml trwy weithio tu hwnt i'w cytundebau," medd Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) yng Nghymru.

"Ond mae'n hanfodol bod cleifion yn deall maint y pwysau ar y proffesiwn a'r hyn y gallai'r gweithlu presennol ei ddarparu mewn difrif."

Disgrifiad,

'Amhosib i feddygon teulu roi brechiadau atgyfnerthu'

Ychwanegodd: "Yn syml, does dim digon o feddygon teulu'n gweithio yn y maes gofal sylfaenol i reoli lefelau presennol y galw.

"Beth mae hynny'n ei golygu yw bod rhaid cyfeirio cleifion at wasanaethau eraill os taw'r rheiny sy'n fwy priodol ac fe allen nhw orfod aros i weld eu meddyg teulu pan mae angen.

"Rydym yn credu bod Llywodraeth Cymru'n deall yr her ddirfodol (existential) y mae meddygfeydd yn eu hwynebu."

'Dim datrysiad cyflym'

Dywedodd Gareth Thomas o sefydliad IGPM (Institute of General Practice Management) fod meddygfeydd wedi ymdrechu ers sawl blwyddyn i ymateb yn well i'r galw am apwyntiadau.

Rhybuddiodd "nad ail-drefnu adnoddau cyfyngedig i alluogi cleifion i drefnu apwyntiadau ymhellach o flaen llaw yw'r ateb" gan fod perygl i lai o bobl gael eu gweld yn y pen draw wrth i fwy o gleifion fethu â chadw'u hapwyntiadau.

Ychwanegodd nad yw'n bosib sicrhau "datrysiad cyflym i broblem sydd wedi'i gwreiddio".

"Bydd angen i bractisiau weithio gyda chleifion i gytuno ar yr hyn sy'n addas mewn ymateb i'w hanghenion, yn y dealltwriaeth y gallen nhw gael eu cyfeirio at wasanaeth arall fel bod meddygon yn rhydd i ddelio ag achosion mwy cymhleth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fel rhan o'r cytundeb newydd rhwng meddygon teulu a Llywodraeth Cymru, bydd cleifion sydd angen apwyntiad ar ôl bod trwy broses brysbennu (triage) yn cael apwyntiad, ar yr un diwrnod neu yn y dyfodol.

Fel sy'n digwydd eisoes, bydd rhai cleifion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd eraill.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n pwysleisio bod "y cytundeb diwygiedig yn ei gwneud yn glir nad yw'r arfer o ryddhau apwyntiadau bob dydd am 08:00 yn dderbyniol mwyach".

I gydfynd â'r telerau newydd, bydd:

  • £12m yn cael ei wario dros dair blynedd ar "gapasiti ychwanegol";

  • Meddygon teulu a staff meddygfeydd yn cael codiad cyflog o 3%;

  • £2m ar gael i ddelio â phwysau misoedd y gaeaf.

"Bydd buddsoddi mewn capasiti'n mynd peth ffordd at leddfu'r pwysau presennol ac mae'n gydnabyddiaeth i'w groesawu o'r diffyg gweithwyr sy'n wynebu meddygon teulu o ran darparu'r gwasanaethau maen nhw'n dymuno eu darparu," medd Dr Phil White.

'Diwedd y dagfa wyth o'r gloch'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod am am "weld diwedd ar y dagfa 8:00 lle mae'n rhaid i gleifion ffonio eu practis dro ar ôl tro i gael apwyntiad."

Ychwanegodd Ms Morgan bod y Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu gallu i "gefnogi meddygon teulu sy'n gweithio mor galed".

Dywedodd ei bod hi'n annog y cyhoedd i ystyried ffyrdd eraill i gael cyngor a chymorth meddygol y gaeaf hwn.

Mae o leiaf 14,000 o apwyntiadau fideo wedi bod yn ystod y pandemig, meddai Ms Morgan wrth raglen Dros Frecwast, ac mae'r Llywodraeth am sicrhau bod yr opsiwn hyn yn parhau.

"Rydyn ni'n awyddus i weld newid yn y ffordd mae pobl yn defnyddio'r meddyg," meddai.