Adran Dau: Casnewydd 3-2 Sutton United

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cic hwyr o'r smotyn gan Matty Dolan wnaeth sicrhau buddogoliaeth o 3-2 i Gasnewydd yn erbyn 10 dyn Sutton United nos Fawrth.

Roedd yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen gyda thri munud o'r hanner cyntaf yn weddill - David Ajiboye wnaeth sgorio ar y ddau achlysur.

Ond gyda chapten Sutton, Craig Eastmond yn gweld cardyn coch wedi 34 o funudau am drosedd yn erbyn Robbie Willmott, roedd yna obaith i'r Alltudion daro'n ôl.

A dyna ddigwyddodd yn yr ail hanner, gyda goliau gan Lewis Collins (53) a Courtney Baker-Richardson (64) cyn i Dolan rwydo o'r smotyn yn yr eiliadau olaf.

Mae Casnewydd yn codi o'r nawfed i'r wythfed safle, gyda 31 o bwyntiau, tra bo Sutton yn parhau yn chweched.