Y Cymro cyntaf i sgorio tair yn yr NHL?
- Cyhoeddwyd
Ai dyma'r Cymro cyntaf i sgorio hattrick yn yr NHL (National Hockey League)?
Mae'n edrych felly. Cafodd hanes ei greu neithiwr wrth i Nathan Walker sgorio tair i St Louis Blues yn erbyn y Detroit Red Wings.
Mae'n cael y clod am fod yr Awstraliad cyntaf i wneud hynny yn y gynghrair. Mae hefyd yn enwog gan mai ef yw'r Awstraliad cyntaf erioed i chwarae yn yr NHL.
Ond cafodd Walker, 27, ei eni yng Nghaerdydd yn 1994, ac roedd yn byw yn y ddinas yn ystod ei flynyddoedd cynnar cyn i'w deulu fudo i Sydney pan oedd o'n ddwy oed.
Dyna ble ddechreuodd taith Walker ym myd Hoci Iâ ac mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth.
Mae ganddo 25 ymddangosiad i'r Washington Capitals, Edmonton Oilers a'r St Louis Blues dros y pum mlynedd diwethaf.
Cafodd ei alw i'r garfan mewn argyfwng o dîm y Springfield Thunderbirds, sef brawd bach y St Louis Blues, cyn rhoi perfformiad "aruthrol" neithiwr yn ôl cyfryngau'r Unol Daleithiau.
Cymry'r byd Hoci Iâ
Nid Nathan Walker yw'r unig un sydd wedi cael ei eni yng Nghymru a chwarae yn yr NHL.
Cafodd Wilf Cude ei eni yn Y Barri, ddechrau'r 1900au. Pan oedd yn blentyn fe benderfynodd ei rieni symud i Winnipeg yng Nghanada i chwilio am waith. Chwaraeodd yn yr NHL dros y Philadelphia Quakers yn 1930-31.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Golgeidwad oedd Cude, ac aeth 'mlaen i chwarae dros rai o dimau hoci iâ mwya'r byd; y Boston Bruins, Chicago Black Hawks, Detroit Red Wings a'r Montreal Canadiens. Rhoddodd y gorau i chwarae yn 1941 cyn mynd 'mlaen i hyfforddi a gweithio fel sgowt. Bu farw yn 1968.
Daw Jack Evans o Garnant, Sir Gâr. Pan symudodd ei deulu i Drumheller yn nhalaith Alberta, Canada, ychydig iawn o Saesneg oedd ganddo. Chwaraeodd dros ddau o fawrion yr NHL, y New York Rangers a'r Chicago Black Hawks. Fe wnaeth ymddeol o chwarae yn 1972 yn 44 oed. Bu farw yn Manchester, Connecticut yn 1996.
Un arall a oedd yn chwarae i'r Chicago Blackhawks oedd Cy Thomas o Ddowlais. Yn 1948 fe symudodd i chwarae dros y Toronto Maple Leafs, cyn ymddeol yn 1952. Bu farw Thomas yn 2009.