Ailagor canolfan sglefrio iâ wedi cyfnod 'rhwystredig'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i un o'r ddau o ganolfannau sglefrio iâ yng Nghymru ailagor ddydd Llun, bron i 17 mis ar ôl gorfod cau oherwydd y pandemig.
Roedd newidiadau i reolau covid Llywodraeth Cymru yn golygu bod hawl gan ganolfannau o'r fath i agor ar 17 Gorffennaf, ond doedd y gwaith paratoi yng Nghanolfan Iâ Cymru yng Nghaerdydd heb ei gwblhau.
Mae'r unig ganolfan sglefrio iâ arall yng Nghymru ar Lannau Dyfrdwy yn parhau i fod ar gau, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio fel canolfan brechu torfol.
Roedd canolfannau sglefrio iâ yn un o'r cyfleusterau hamdden olaf i ailagor i'r cyhoedd yma, gyda Llywodraeth Cymru'n dweud bod perygl o ledaenu Covid-19.
Dywedodd Todd Kelman, Rheolwr Gyfarwyddwr tîm hoci iâ Cardiff Devils, sydd hefyd yn rheoli Canolfan iâ Cymru, ei bod hi'n "wych" gallu ailagor wedi blwyddyn a hanner "hynod o rwystredig".
"Mae hi'n grêt ein bod ni, o'r diwedd, wedi derbyn y newyddion yr oedden ni'n aros amdano," meddai.
"Byddai hi wedi bod yn grêt pe taen ni wedi cael gwybod rhyw bedair wythnos yn gynt, gan y byddai hynny wedi rhoi rhagor o amser i ni allu paratoi."
Ychwanegodd Mr Kelman ei bod hi'n siomedig bod mannau sglefrio iâ heb gael ailagor o gwbl yng Nghymru tan fis Mawrth 2020, tra bod cyfleusterau o'r fath yn Lloegr wedi gallu bod ar agor drwy gydol y flwyddyn.
"O safbwynt y ganolfan, rydyn ni wedi bod yn derbyn e-byst yn wythnosol yn holi pam nad ydyn ni ar agor," meddai.
"Mae'n siomedig iawn i'r plant hynny sy'n sglefrio neu sy'n chwarae hoci. Maen nhw wedi wynebu costau sylweddol wrth orfod teithio i ganolfannau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
"Byddai hi wedi bod yn haws i ni dderbyn y sefyllfa pe bai'r DU i gyd yn wynebu'r un fath o gyfyngiadau, dyna yw'r rhwystredigaeth fwyaf.
"Mae'r staff i gyd wedi gwneud gwaith ardderchog, a dwi'n gobeithio y bydd pawb sy'n dod drwy'r drysau yn gwerthfawrogi faint o ymdrech sydd wedi mynd tuag at agor y ganolfan."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad i gadw canolfannau sglefrio iâ ar gau wedi ei selio ar dystiolaeth a chyngor gan Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru (TAG).
Maen nhw'n dweud bod y perygl o gael eich heintio yn uwch mewn mannau oer, gwlyb a swnllyd, a bod coronafeirws yn debygol o oroesi ar yr iâ ei hun am gyfnod sylweddol tra bod risg hefyd o gael eich heintio wrth gyffwrdd y waliau neu yn yr ystafelloedd newid.
'Teimlo fel ein bod ni wedi cael ein hanghofio'
Ond wrth i Ganolfan Iâ Cymru yng Nghaerdydd baratoi i groesawu'r cyhoedd unwaith eto, mi fydd canolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint yn aros ar gau.
Mae'r safle yn cael ei ddefnyddio fel canolfan brechu torfol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr tan fis Mawrth 2022.
Dywedodd Jake Forster o glwb hoci iâ Deeside Dragons, fod pobl ifanc wedi bod yn teithio ar hyd gogledd orllewin Lloegr i sglefrio, ac y gallai hynny gael effaith ddifrifol ar chwaraeon y gaeaf yn yr ardal.
"Mae'r system ieuenctid yma wedi ei chwalu, ac fe allai hi gymryd blynyddoedd i'w hadfer," meddai.
"Mae'r holl blant ifanc wnaeth ddysgu sut i sglefrio iâ yma wedi mynd i Widness neu Altrincham... ac mae hi'n annhebygol y byddan nhw'n dychwelyd."
Er yn cydnabod pwysigrwydd y ganolfan frechu, dywedodd Mr Forster ei bod hi'n "rhwystredig" bod y safle yn debygol o fod ar gau am ddwy flynedd.
"Mae hi'n siomedig eu bod nhw wedi dewis yr adeilad yma pan roedd cymaint o opsiynau eraill ar gael. Wrth i ni ddechrau dychwelyd i normalrwydd, mae hi'n teimlo braidd fel ein bod ni wedi cael ein hanghofio."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y ganolfan wedi ei lleoli yn rhywle sy'n gyfleus i bobl yr ardal, ac sy'n eu galluogi nhw i frechu nifer fawr o bobl bob dydd mewn modd diogel ac effeithlon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021