Ffurflenni DBS yn 'wahaniaethu ieithyddol'
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraethwr ysgol yn dweud y gallai gael ei orfodi i roi'r gorau i'w waith am nad yw'n medru profi yn y Gymraeg ei fod yn dal yn gymwys.
Ym myd addysg, fel mewn gwaith cymdeithasol, y gyfraith, ac yn y sector gwirfoddol, mae cefndir troseddol gweithwyr yn cael ei wirio gan asiantaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Er bod yr holl ffurflenni ar gael yn ddigidol yn Saesneg, mae'n rhaid i lawer sydd am wneud cais yn Gymraeg wneud hynny ar bapur, sy'n aml yn broses arafach.
Mae'r DBS yn dweud bod y wybodaeth ar unigolion gan yr heddlu yn Saesneg ac nad oes gan yr asiantaeth yr hawl i'w gyfieithu.
Maen nhw'n gwadu bod oedi hir i geisiadau papur.
'Fy nhrin yn eilradd'
Mae Llyr Gruffydd, AS Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, yn llywodraethwr ar ei ysgol leol ym Mhentrecelyn ac angen adnewyddu ei dystysgrif statws uwch gyda'r DBS.
Ond mae wedi gwrthod llenwi'r ffurflen bapur Gymraeg gan ddweud ei fod yn aros iddi fod ar gael yn ddigidol.
"Wna i ddim cael fy nhrin fel siaradwr Cymraeg yn eilradd," meddai.
"Dwi am lenwi fy nghofrestriad DBS ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Os na fydd hynny'n cael digwydd mae'n debyg na fydda' i'n cael bod yn llywodraethwr ysgol.
"Ac os na fydda' i'n cael bod yn llywodraethwr ysgol, yna fydda' i'n tybio mod i wedi cael fy eithrio o hynny ar sail gwahaniaethu ieithyddol.
"Dydy hynny ddim yn deg. Dydy hynny ddim yn dderbyniol ac mi fydda i'n ymladd hyn i'r pen."
Mae'r ffurflenni sylfaenol ar gael yn ddigidol yn Gymraeg, ond nid y ffurflenni safonol ac uwch.
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, mae'r sefyllfa'n medru achosi problemau ehangach, gyda chyrff yn gorfod oedi wrth benodi staff.
"Mae'r ceisiadau ar gael ar-lein, fe gewch chi'r canlyniadau o fewn saith diwrnod. Mae'r ceisiadau ar bapur sy'n rhaid eu gwneud yn Gymraeg, mae'r rheiny'n cymryd rhyw chwe wythnos o leiaf," meddai.
"Felly mae pobl yn dioddef achos dydy awdurdodau ddim yn barod i'w cyflogi nhw cyn i'r canlyniadau ddod yn ôl."
Mae'r Mudiad Meithrin hefyd yn anhapus â'r sefyllfa ac mewn datganiad yn dweud eu bod yn "gresynu nad oes gwasanaeth lawn yn y Gymraeg ar gael i'r broses GDA (DBS), a dylai'r Gymraeg gael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg.
"Dydi gorfod llenwi ffurflenni papur a'u postio ddim yn dderbyniol yn yr oes ddigidol hon ac mae'n arafu'r broses penodi staff yn aruthrol. Galwn ar Gomisiynydd y Gymraeg i ymchwilio i hyn," meddai'r mudiad.
'Rhwystredig iawn'
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi cynnwys y DBS o dan y safonau iaith, a dydy'r corff ddim wedi llunio Cynllun Iaith Gymraeg hyd yma.
"Does dim grym gyda ni i orfodi nhw i gael cynllun iaith," medd Aled Roberts, "felly 'den ni'n teimlo'n rhwystredig iawn.
"'Den ni'n trafod, 'den ni'n ceisio perswadio nhw. Ond yn y pendraw mae angen trafodaeth ynglŷn â'r cyrff Prydeinig yma sydd ddim yn barod, yn fy marn i, i gydnabod statws cyfartal y Gymraeg."
Un o asiantaethau'r Swyddfa Gartref yw'r DBS. Dywedodd y Swyddfa Gartref mai mater i'r DBS oedd eu polisi iaith Gymraeg.
Mewn ymateb mae'r DBS yn dweud bod eu bod nhw wedi eu hymrwymo i wella'r gwasanaeth.
"Mae'r ceisiadau lefel uwch yn cael eu gwirio gan system awtomatig sy'n paru'r unigolyn efo'r manylion sydd ar gyfrifiadur yr heddlu," meddai llefarydd.
"Mae'r wybodaeth gan yr heddlu yn Saesneg a does gennym ni ddim yr hawl i'w newid na'i gyfieithu.
"Dydyn ni ddim yn derbyn fod oedi hir i geisiadau papur. Dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, fe gafodd 1,999 o geisiadau lefel uwch eu cyflwyno ar bapur yn Gymraeg.
"Ar gyfartaledd mi gafodd y rheiny eu dychwelyd mewn 11 diwrnod - sydd o fewn y targed o 14 diwrnod."
'Gofyn iddynt wella eu gwasanaethau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Credwn y dylid cynnig gwasanaethau Cymraeg yn gyfartal â'r rhai a ddarperir yn Saesneg.
"Mae gennym uchelgais i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ac rydym am weld siaradwyr Cymraeg yn gallu cael gafael ar gynifer o wasanaethau â phosibl yn Gymraeg.
"Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi ysgrifennu at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gofyn iddynt wella eu gwasanaethau Cymraeg fel y gall defnyddwyr gwblhau'r ystod lawn o wiriadau yn Gymraeg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021