Adran Dau: Rochdale 3-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Aaron Lewis (Casnewydd) ac Alex Newby yn cystadlu am y bêlFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Lewis (Casnewydd) ac Alex Newby yn cystadlu am y bêl

Fe gollodd Casnewydd gyfle i godi i drydydd safle Adran Dau ddydd Sadwrn trwy fethu â sicrhau triphwynt yn Rochdale.

Sgoriodd Jake Beasley gôl gynnar cyn dyblu'r fantais o'r smotyn wedi 72 o funudau.

Roedd hynny wedi penderfyniad dadleuol i gosbi Mickey Demetriou am drosedd yn erbyn Corey O'Keeffe.

Doedd dim gobaith am hyd yn oed bwynt oddi cartref wedi i Liam Kelly wneud hi'n 3-0 ym munud olaf yr ail hanner.

Mae Casnewydd yn llithro o'r pedwerydd i'r chweched safle tra bod Rochdale yn codi o'r 21ain i'r 14eg safle.