Pwynt yn unig i Casnewydd oddi cartref yn Walsall

  • Cyhoeddwyd
Dom TelfordFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dom Telford sgoriodd y gyntaf a'r drydedd i Gasnewydd

Mae Casnewydd wedi codi i'r seithfed safle yn Adran 2 - safleoedd y gemau ail gyfle - yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn Walsall.

Aeth yr Alltudion ar y blaen yn gynnar iawn wrth i Dom Telford sgorio gyda'i droed chwith wedi dim ond pedwar munud o chwarae.

Er mae'i ymwelwyr gafodd y cyfleoedd gorau yn yr hanner cyntaf, fe barhaodd y sgôr yn 0-1 tan yr egwyl.

Daeth moment bwysig yn y gêm pan ddaeth Conor Wilkinson ymlaen fel eilydd i Walsall wedi 52 munud.

Gyda'i gic gyntaf, fe sgoriodd i'w gwneud hi'n gyfartal 1-1 wedi 53 munud.

Ond yna dri munud yn ddiweddarach, fe rwydodd eto - i'w gôl ei hun y tro hwn - i roi Casnewydd ar y blaen unwaith eto.

Roedd mwy na digon o gyffro ar ôl. Wedi 65 munud, Matty Dolan oedd yn euog o roi'r bêl yn ei rwyd ei hun ac roedd hi'n gyfartal eto 2-2.

Y tro hwn, dim ond am funud oedd hi'n gyfartal gan i Gasnewydd fynd i ben arall y cae a sgorio eto - Dom Telford gyda'i ail yn y gêm i'w gwneud hi'n 2-3.

Felly y buodd hi tan yr amser ychwanegwyd am anafiadau ar ddiwedd y gêm, ond yna tor-calon i gefnogwyr Casnewydd.

Roedd Walsall wedi bod yn pwyso gyda chyfres i giciau cornel, ond pan ddaeth y bêl at Conor Wilkinson y tu allan i'r cwrt, fe darodd ergyd i gornel ucha'r rhwyd i unioni'r sgôr gydag eiliadau'n weddill.

Gan nad oedd Port Vale yn chwarae, mae Casnewydd wedi codi i'r seithfed safle yn y tabl, ac felly yn safleoedd y gemau ail gyfle ar hyn o bryd, ond maen nhw wedi chwarae mwy o gemau na'r timau o'u cwmpas.