Pêl-Droed Cymru: Beth i'w ddisgwyl yn 2022?

  • Cyhoeddwyd
pel-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd 2021 yn flwyddyn gythryblus i bêl-droed Cymru- antur Euro 2020 i dîm y dynion, datblygiadau cyffrous i gêm y merched, a digon o helynt i'r clybiau ar, ac oddi ar, y cae.

Ond beth sydd am ddigwydd yn 2022? Y gohebydd chwaraeon Owain Llŷr sy'n trafod beth allwn ni ddisgwyl gan ein timau cenedlaethol a'r prif glybiau.

Ar ôl cyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros ddwywaith yn olynol, y nod i dîm dynion Cymru yn 2022 fydd cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958. Ac mae ganddyn nhw gyfle euraidd i wneud hynny.

Mi orffennodd tîm Rob Page yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol, gan sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle. A dwi ddim yn meddwl y byse Cymru wedi gallu gofyn am gemau gwell - Awstria gartref yn y rownd gyn-derfynol, ac unai Yr Alban neu Wcráin gartref yn y rownd derfynol (hynny yw os y bydden nhw'n curo Awstria).

I gael y cyfle gorau i fod yn lwyddiannus, mae angen i Gareth Bale ac Aaron Ramsey fod yn holliach ac ar dop eu gêm. Ar y funud tydi'r ddau ddim yn chwarae i'w clybiau Real Madrid ac Juventus oherwydd anafiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Ramsey a Gareth Bale, dau chwaraewr allweddol i'r tîm cenedlaethol

Ond pan fydd y ddau ar gael unwaith eto, tydyn nhw ddim yn saff o fod yn chwarae'n rheolaidd. Mae 'na sibrydion ar led y bydd y ddau yn edrych i symud clwb ym mis Ionawr, a mi fyse hynny'n gallu gweithio o blaid Cymru.

Merched Cymru

Tydi tîm merched Cymru erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Tybed a welwn ni hynny'n newid yn 2022?

Maen nhw yn yr ail safle ar y funud yn eu grŵp rhagbrofol, fyse'n ddigon i'w gweld nhw'n cyrraedd y gemau ail gyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kayleigh Green yn ymosod yn erbyn Ffrainc yn yr ornest yn Guingamp, 30 Tachwedd, 2021

Ar ôl i Jayne Ludlow osod seiliau cadarn yn ystod ei chyfnod hi fel rheolwr, mae Gemma Grainger wedi dod i fewn a gosod ei stamp ei hun ar y tîm. Maen nhw'n llawer mwy ymosodol bellach, ac yn barod maen nhw wedi sgorio 17 gôl mewn 6 gêm yn yr ymgyrch ragbrofol.

Dwi wir yn credu y bydd Cymru yn cyrraedd y gemau ail-gyfle, gan fynd gam yn nes at le yn y gystadleuaeth yn Awstralia a Seland Newydd yn 2023.

Y Bencampwriaeth

Mae Caerdydd mewn sefyllfa fregus yn y tabl ar y funud, ond mae pethau wedi gwella ers i Steve Morison gael ei benodi fel rheolwr. Er eu bod nhw dim ond bedwar pwynt o'r safleoedd disgyn, mae'r perfformiad diweddar yn West Brom yn profi fod 'na ddigon o dalent yn y garfan i'w cael nhw allan o drwbl.

Er fod Abertawe wedi cyrraedd y gemau ail-gyfle yn ystod y ddau dymor dwetha', mae'n annhebygol y bydd hynny'n digwydd eleni. Ar ôl mynd ar rediad da ym mis Hydref a mis Tachwedd, mae pethau wedi mynd ar chwâl yn ddiweddar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 35 oed Russell Martin yw'r ail ieuengaf o holl reolwyr cynghreiriau Lloegr, o'r Uwch Gynghrair lawr i'r Ail Adran

Mae Russell Martin angen mwy o amser i ail-wampio'r garfan cyn y gwelwn ni nhw'n brwydro am le yn y chwe safle uchaf. Dwi'n meddwl y bydd yn rhaid i ni aros tan y tymor nesaf i weld hynny'n digwydd.

Yr Ail Adran

Mae Casnewydd wedi dod yn agos at ennill dyrchafiad fwy nag unwaith yn ystod y tymhorau dwetha' drwy'r gemau ail-gyfle, a does 'na ddim rheswm o gwbl pam na allen nhw fynd gam yn well yn 2022, ac ennill dyrchafid awtomatig drwy orffen yn y tri safle uchaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dom Telford wedi sgorio 16 gôl mewn 15 gêm dros Gasnewydd y tymor yma

Yr ymosodwr Dom Telford ydi prif sgoriwr y gynghrair ar y funud, ac os y bydden nhw'n llwyddo i gadw eu gafael arno ym mis Ionawr yna mae unrhyw beth yn bosibl.

Cynghrair Genedlaethol Lloegr

A'i dyma'r flwyddyn lle fydd Wrecsam o'r diwedd yn dychwelyd i'r Gynghrair Bêl-droed? Mae buddsoddiad Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn y clwb wedi rhoi gobaith gwirioneddol i bawb, ac maen nhw ar y funud yn y trydydd safle.

Disgrifiad o’r llun,

Rob McElhenney a Ryan Reynolds ar eu hymweliad cynta i'r Cae Ras

Ond gorffen ar y brig, ac ennill dyrchafiad yn awtomatig ydi'r freuddwyd i sêr Hollywood, felly dwi'n disgwyl gweld y ddau yn mynd mewn i'w pocedi dwfn unwaith eto ym mis Ionawr, ac yn rhoi dau neu dri chwaraewr o safon fel anrheg 'Dolig hwyr i Phil Parkinson.

Cymru Premier

Mae'n hynod o annhebygol y bydd Cei Connah yn ennill y gynghrair am y trydydd tymor yn olynol, ac mae'n ymddangos mai'r Seintiau Newydd fydd yn mynd a hi eleni gan eu bod nhw 12 pwynt yn glir ar y brig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-chwaraewr ganol cae Cymru, Dave Edwards, sydd bellach yn chwarae dros Y Bala

Mae hi wedi bod yn dda gweld y Drenewydd a'r Fflint yn cychwyn y tymor cystal, ac mae hi am fod yn frwydr ddiddorol am y safleoedd yng nghystadlaethau Ewrop ar ddiwedd y tymor.