Adran Dau: Casnewydd 0-2 Salford City
- Cyhoeddwyd
![Cafodd y gem ei chwarae heb gefnogwyr oherwydd cyfyngiadau coronafeirws Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9A94/production/_122627593_170fe8c1-1ca7-4294-807e-fbf23b02abba.jpg)
Cafodd y gêm ei chwarae heb gefnogwyr oherwydd cyfyngiadau coronafeirws Cymru
Methodd Casnewydd y cyfle i gau'r bwlch ar dri uchaf yr Ail Adran wrth i'r ymwelwyr Salford City ennill 2-0 yn Rodney Parade.
Aeth Salford ar y blaen funud cyn hanner amser pan sgoriodd Finn Azaz foli anffodus i'w rwyd ei hun.
Ar 52 munud cafodd yr ymwelwyr eu hail, Brandon Thomas-Asante yn gorffen yn bwyllog gyda'i droed chwith ar ôl gwaith da gan Jordan Turnbull.
Mae'r golled yn golygu bod Casnewydd yn aros yn seithfed yn y gynghrair.