Boris Johnson: Y llew yn ei gaets

  • Cyhoeddwyd

Un o bleserau'r Nadolig a Chalan yw ail-ddarganfod llyfrau a ffilmiau y mae dyn wedi hanner eu hanghofio.

Y dydd o'r blaen bues yn ail-wylio ffilm o'r 1960au sydd â rhywbeth i ddweud efallai am wleidyddiaeth ein cyfnod ni.

"The Lion in Winter" oedd y ffilm ac mae'n nodedig yn hanes y sinema Gymreig am berfformiad pwysig cyntaf Anthony Hopkins ar y sgrin fawr. Peter O'Toole, gŵr Siân Phillips ar y pryd, sydd â'r brif ran yn chwarae'r brenin Harri II yn ei ddyddiau olaf.

Neges y ffilm yw bod pob arweinydd yn feidrol ac yn hwyr neu'n hwyrach does fawr ddim y gall hyd yn oed y brenin mwyaf pwerus a galluog ei wneud i rwystro grym rhag llithro o'i ddwylo.

Unwaith mae swyddogion y llys yn sylweddoli bod y cloc yn tician does dim modd troi'r dwylo yn ôl.

Nawr mae cymharu Boris Johnson â Harri II yn ychydig o strets efallai. Wedi'r cyfan, profodd Harri ddegawdau o lwyddiant a goruchafiaeth tra bod Johnson ond wedi cipio'r goron chwinciad yn ôl.

Eto i gyd, mae hwn yn ddyn wnaeth adeiladu llywodraeth lle'r oedd pob dim yn troi o gwmpas fe'i hun a dyrchafiad yn digwydd ar sail teyrngarwch yn hytrach na thalent neu allu. Nid fi yw'r cyntaf i synhwyro mai llys Canoloesol sydd gan Boris Johnson yn hytrach na chabinet yn yr ystyr fodern.

A dyma ni felly, y llew yn ei gaets a'i fwng wedi ei dorri.

Mae'n ymddangos bod y meinciau cefn yn troi arno a'r arolygon barn yn anffafriol a dweud y lleiaf.

Dim ond dwy flynedd sy' 'na ers i Boris Johnson sgubo trwy ogledd Lloegr a gogledd ddwyrain Cymru i sicrhau mwyafrif teilwng iawn yn Nhŷ'r Cyffredin. A nawr dyma fe, yn edrych yn debycach bob dydd i John Major neu Theresa May yn eu dyddiau olaf.

Mae'n anodd gweld sut y gall Johnson gael ei hun allan o'r twll mae fe ynddo. Go brin y byddai ymddiheuriad yn ddigon erbyn hyn.

Fel Harri'r II, gyda'r llys i gyd yn gwylio'r cloc, mae'n anodd osgoi'r casgliad bod y diwedd ar ddod.

Tic Toc.