Gwerthu llyfrau i'r sêr...o gefn bws
- Cyhoeddwyd
Mae'n cael ei adnabod fel 'y boi Dylan Thomas' gan lawer ond fe ddechreuodd Jeff Towns hyfforddi i fod yn athro cyn dechrau gwerthu llyfrau dros hanner can mlynedd yn ôl. Dros y blynyddoedd mae wedi gwerthu llyfrau i sêr roc, prif weinidogion ac artistiaid.
Ar ôl symud o West Ham yn Llundain i Abertawe, dechreuodd 'Jeff the Books' werthu llyfrau, fel mae'n esbonio: "Roeddwn i'n gelcwr (hoarder) llyfrau, felly agorais i siop lyfrau ail-law.
"Agorais y siop ar 75 Stryd Fawr Abertawe yn 1970. Ond o fewn tri mis symudais y siop i Oxford St yn agos at siop lyfrau arall oedd yn berchen i Ralph Wishart, roedd e wedi bod yn y busnes ers 1925.
"Roedd Ralph yn ffrind agos iawn i Dylan Thomas ac roedd e yn dda iawn i mi pan ddechreuais i yno. Roedd hi braidd yn ddigywilydd i alw fy siop yn Dylan's oherwydd siop Ralph oedd y siop lyfrau Dylan's gwreiddiol.
"Dylan Thomas oedd fy arwr llenyddol, felly byddai galw fe'n rhywbeth arall yn rhyfedd."
Effaith y byd digidol
Wrth i'r byd droi yn ddigidol, dechreuodd bobl brynu mwy a mwy arlein a dechreuodd cwmnïau fel rhai Jeff ddioddef.
"Ceisiais symud arlein ond roeddwn i'n ei gasáu," eglura Jeff.
"Roedd gwerthu arlein yn golygu bod yn rhaid i chi roi llyfrau ar silffoedd yn ôl rhifau, fel y gallwch ddod o hyd i'ch llyfrau'n gyflym. Mae siopau llyfrau go iawn yn rhoi llyfrau ar silffoedd yn ôl pwnc, felly mae'n anodd i ni i ddod o hyd i lyfr.
"Y peth gwaethaf am werthu arlein oedd peidio dod i 'nabod y bobl oedd yn prynu fy llyfrau. Felly awgrymodd fy meibion fy mod yn creu siop lyfrau symudol.
"Arweiniodd hynny i mi gael gafael ar hen fan, llenwes i'r hen fan â stoc ddiddorol o lyfrau da. Enwais y fan yn Bws Llyfr Symudol Dylan's a'i yrru i wahanol ŵyliau ar draws y wlad. Roedd yn llwyddiant mawr, ac yn fwy o foddhad nag elw ariannol. Dyma oedd dechrau fy antur newydd.
"Roedd yn llawer o hwyl ac roedd yn golygu fy mod yn ôl yn cwrdd â phobl oedd â diddordeb mewn llyfrau.
O Abertawe i Arizona
"Dechreuais i deithio i ffeiriau o amgylch y DU, ac yna bob mis i Lundain. Yna awgrymodd gwerthwr llyfrau arall ein bod yn mynd i ffair lyfrau ryngwladol yn Toronto. A digwydd bod, rhannais stondin gyda'r athrylith a gwerthwr llyfrau o Lundain, Eric Korn."Daethon ni'n ffrindiau agos ac fe gyflwynodd fi i'w ffrind agos - niwrolegydd o Efrog Newydd, Oliver Sachsm. Mae'n enwog am y llyfr The Man Who Mistook His Wife For A Hat.
"Dechreuodd Eric a minnau arddangos ar draws y taleithiau. Byddai Oliver yn ymuno â ni ac fe deithion ni i ffeiriau llyfrau drwy anialwch Mojave yng Nghaliffornia i Arizona ac yna i Mecsico. Roedden nhw'n dripiau anhygoel."
Ymhlith y rhai i brynu llyfrau gan Jeff oedd cyn Brif Weinidog James Callaghan (prynodd The Ragged Trousered Philanthropists), Mick Jagger, (argraffiad cyntaf Under Milk Wood), a dau o gyn-lywyddion yr Unol Daleithiau sef Jimmy Carter a Bill Clinton.
Rhai o'r enwau eraill i ymweld â Siop Lyfrau Symudol Dylan's oedd Noel Fielding, Rhys Ifans, Robin Ince, Alexis Sayle, Harry Hill, Peter Blake, Thurston Moore, Robert Plant a Stuart Lee.
Diwedd cyfnod
Fodd bynnag, mae Covid wedi gorffen y bennod honno.
"Mae'r bws wedi heneiddio dros y cyfnod clo," dywedodd Jeff.
"Dyw'r gost i ddod â'r bws nôl i weithio ddim yn gynaliadwy.
"Roedd y Bws Llyfrau yn ffordd wych i ddathlu 50 mlynedd yn y fasnach lyfrau. Dwi'n gweld ei eisiau'n ofnadwy ond mae fy ngwraig yn gweld mwy ohonof i!
"Dwi nawr yn ceisio lleihau fy stoc o lyfrau ac rydw i'n parhau i fod yn brysur. Dwi'n ysgrifennu llyfr, y teitl yw The Two Dylans sef Bob Dylan a Dylan Thomas. Mae hyn yn cadw fi'n brysur ynghyd â ffilm ddogfen yn adrodd hanes y Bws Llyfrau o'r enw'r BookBus."