Dysgu Cymraeg drwy gyfieithu llyfrau i'r Pwyleg

  • Cyhoeddwyd
Un Nos Ola Leuad, Marta Listewnik, Llyfr Glas NeboFfynhonnell y llun, Marta Listewnik/Y Lolfa

Mae Marta Listewnik wedi cyfieithu rhai o lyfrau Cymraeg mwyaf yr 20fed ganrif i Bwyleg.

Hi sydd wedi trosi Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard - a hynny ar ôl llai na thair blynedd o ddysgu Cymraeg - Pum Cynnig i Gymro gan John Elwyn Jones, ac yn fwy diweddar, Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros. Mae hi hefyd wedi cyfieithu tair o ddramâu Saunders Lewis, a nawr â'i bryd ar gyfieithu mwy o nofelau ein diwylliant.

Ond sut mae Pwyles wedi mynd ati i wneud hynny, ac efallai yn bwysicach na hynny, pam?

Un Nos Ola Leuad

Hap a damwain oedd ei bod wedi dechrau dysgu Cymraeg o gwbl, meddai Marta, ond ar ôl dechrau ar gwrs Astudiaethau Saesneg gyda Ieithoedd Celtaidd yn y brifysgol yn Poznań, Gwlad Pwyl, er nad oedd hi'n gwybod fawr ddim am Gymru a'r Gymraeg cyn hynny, syrthiodd mewn cariad â'r iaith.

Felly sut aeth ati i gyfieithu un o lyfrau mwyaf y Gymraeg?

"'Nes i ddarllen Un Nos Ola Leuad yn ystod y gwyliau o'r brifysgol, ac es i dipyn yn obsessed efo'r nofel! O'n i'n meddwl ei fod mor wych; doeddwn i ddim yn gallu stopio meddwl am y llyfr.

"Ac o'n i'n sôn amdano wrth fy ffrindiau hefyd, ond dydi fy ffrind gorau ddim yn gallu siarad Saesneg, na Chymraeg wrth gwrs, felly doedd yna ddim modd cyflwyno'r llyfr iddi. Felly, roedd rhaid i mi ei gyfieithu!"

Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Marta waith ymchwil i'r awdur Caradog Prichard ac ardal Bethesda er mwyn deall Un Nos Ola Leuad i'w gyfieithu'n llwyddiannus

'Cadw ysbryd y llyfr'

Tipyn o her, yn enwedig â hithau ond yn ei thrydedd blwyddyn o ddysgu Cymraeg.

"Roedd o'n anodd iawn ar y dechrau, wrth gwrs. Roeddwn i'n dysgu Cymraeg tra'n cyfieithu... trwy gyfieithu â dweud y gwir. Roedd yna nifer fawr o wallau yn y cyfieithiad cyntaf, a fues i'n gweithio ar ei gywiro am rhyw dair neu bedair blynedd.

"Darllenais i'r gwreiddiol gyntaf yn 2010, a cafodd y cyfieithiad - Jedna Księżycowa Noc - ei gyhoeddi yn 2017."

Nod Martha gydag unrhyw gyfieithiad yw i "gadw ysbryd y llyfr, a meddwl am y dylanwad ar y darllenydd, i ail-greu'r effaith", felly roedd rhaid deall y testun yn iawn, meddai.

"Roedd rhaid i mi wneud gymaint o ymchwil â phosib i ddeall yr holl elfennau do'n i ddim cweit yn eu deall yn wreiddiol. 'Nes i ddarllen gymaint â phosib am Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, a mynd i Fethesda i weld y lleoedd.

"Roeddwn i wedi ysgrifennu'r drafft cyntaf cyn bod yng Nghymru o gwbl, felly roedd hi'n reit anodd i mi ddychmygu'r tirwedd. Mae'r mynyddoedd yng Ngwlad Pwyl yn hollol wahanol!"

Tafodiaith Bethesda yn herio

Yr her fwyaf oedd yn wynebu Marta oedd y dafodiaith yn y llyfr. Achosodd y gair 'Jyrmans', sy'n cael ei ddefnyddio'n aml yn y nofel, gryn grafu pen, eglurodd.

"Mewn Pwyleg mae 'na lot o eiriau am Almaenwyr wrth gwrs, ond mae lot ohonyn nhw'n negyddol iawn, fel Szkopy, a dydi 'Jyrmans' ddim cweit yr un peth.

"Yn y pendraw, penderfynais i beidio defnyddio unrhyw air sy'n bodoli mewn Pwyleg, ond creu gair newydd. Felly yn y cyfieithiad maen nhw'n dweud Dojcze; dwi wedi creu gair Pwyleg allan o'r gair Almaeneg, Deutsch, am yr Almaenwyr. O'n i'n ceisio dychmygu sut fyddai hynny'n swnio mewn Pwyleg, yn yr adeg mae Un Nos Ola Leuad yn digwydd, dros 100 mlynedd yn ôl."

Mae cyfieithwyr gwahanol yn gwneud penderfyniadau gwahanol, wedi eu seilio ar yr iaith maen nhw'n trosi iddi. Mae Phillip Mitchell, a drosodd y nofel i'r Saesneg - One Moonlit Night - wedi penderfynu Seisnigeiddio enwau'r cymeriadau, fel Hugh yn lle Huw, ond wedi cadw enwau lleoedd, fel Allt a Bryn.

Ffynhonnell y llun, Marta Listewnik
Disgrifiad o’r llun,

Enwau cyfarwydd Huws Person, Gres Elin, John Morus Cerrig Bedda a Huw yng nghanol iaith anghyfarwydd (i nifer) Jedna Księżycowa Noc

Penderfynodd Marta gadw enwau'r cymeriadau yn Gymraeg, ond cyfieithu'r enwau lleoedd ar gyfer ei chynulleidfa hi. Fodd bynnag, roedd llysenwau rhai o'r cymeriadau yn heriol, meddai.

"Beth o'n i'n ei wneud efo Tad Wil Bach Plisman? Mewn Pwyleg mae'n dod yn hir iawn - Tata Małego Wila Syna Policjanta.

"'Nes i benderfynu bod yr elfen fythegol o Un Nos Ola Leuad yn bwysig iawn, felly o'n i eisiau cadw'r enwau fel eu bod nhw'n golygu rhywbeth, er mwyn creu syniad o'r byd lle mae popeth yn ei le, ac mae enw ar bopeth.

"Ond roedd rhai yn anodd iawn, fel Preis Sgŵl. Eto, o'r Saesneg daw 'sgŵl', ac unwaith eto meddyliais am 100 mlynedd yn ôl; roedd Gwlad Pwyl dan ormes Rwsia, felly roedd rhaid i blant ddysgu Rwsieg yn yr ysgol fel roedd rhaid i blant Cymru ddysgu Saesneg.

"Y gair am athro mewn Pwyleg yw nauczyciel, ond mewn Rwsieg учитель (uchitel) ydi o. Felly yn fy fersiwn i, Preis Uczyciel ydi enw'r cymeriad; dwi'n defnyddio'r gair Rwsieg, sy'n debyg iawn ond mae'n dod â'r syniad o rywbeth estron."

Llyfr Glas Nebo

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Manon Steffan Ros y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 am ei nofel Llyfr Glas Nebo

Yn ystod 2020, cwblhaodd Marta ei chyfieithiad o Llyfr Glas Nebo - Niebieska Księga z Nebo. Roedd yr iaith yn llawer llai heriol nag yn Un Nos Ola Leuad, meddai, ond y cyfeiriadau at ddiwylliant Cymraeg a'i heriodd y tro yma.

"Roedd angen cryn dipyn o ymchwil i esbonio i'r darllenwyr yr holl gyd-destunau llenyddol a diwylliannol; y cyfeiriadau at TH Parry-Williams, Kate Roberts, Islwyn Ffowc Elis, barddoniaeth Gymraeg a chaneuon Dafydd Iwan.

"'Nes i baratoi nifer o droed-nodiadau, a holi pobl yn y byd academaidd os o'n i ddim yn siŵr am rywbeth."

Cyfieithodd Marta Lyfr Glas Nebo yn ystod y cyfnod clo yng Ngwlad Pwyl oherwydd pandemig Covid-19, cyfnod rhyfedd iawn yn ei bywyd, ond un a'i helpodd i uniaethu â'r cymeriadau, meddai.

"Fues i'n cyfieithu llyfr sy'n sôn am amser apocalyptaidd, yn ystod y cyfnod clo! O'n i wyth mis yn feichiog, ac mae Rowenna yn sôn am ei beichiogrwydd yn y nofel.

"A gan mod i'n feichiog, doeddwn i methu ysgrifennu ar y cyfrifiadur, felly o'n i'n sgwennu'r cyfieithiad mewn llyfr nodiadau - ro'n i'n teimlo fel y cymeriadau yn sgwennu yn Llyfr Glas Nebo! Felly o'n i'n teimlo cysylltiad rhyfedd iawn gyda Rowenna a Siôn.

"Nes i orffen y drafft cynta' rhyw chwech awr cyn rhoi genedigaeth i'r babi! Ffawd? Tynged?! Gwallgo'!"