Adran Dau: Scunthorpe 0-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Courtney Baker-RichardsonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Courtney Baker-Richardson sgoriodd unig gôl y gêm i Gasnewydd

Mae Casnewydd wedi codi i'r pumed safle yn Adran Dau wedi iddyn nhw drechu Scunthorpe oddi cartref ddydd Sadwrn.

Wedi ychydig dros hanner awr fe gafodd yr ymwelwyr gic o'r smotyn yn dilyn trosedd gan Manny Onariase ar Oliver Cooper.

Ond fe wnaeth ergyd Mickey Demetriou o'r smotyn daro'r postyn, gan olygu ei bod yn parhau'n ddi-sgôr.

Yr Alltudion oedd y tîm gorau o lawer, ac fe aethon nhw ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner wrth i Courtney Baker-Richardson benio cic rydd Cooper i gefn y rhwyd.

Gydag 20 munud yn weddill fe gafodd Scunthorpe gyfle euraidd i ddod yn gyfartal gyda chic o'r smotyn, ond fe lwyddodd y golwr Nick Townsend i arbed ergyd Myles Hippolyte.